Heddiw, ar Ddiwrnod Diogelwch Cleifion y Byd, mae Gwelliant Cymru yn lansio strategaeth ‘Cyflawni Gwella Ansawdd a Diogelwch’
Mae ‘Yn ôl i Fywyd Cymunedol’ gan Gwelliant Cymru yn cefnogi pobl sy’n ei chael hi’n anodd gadael eu cartrefi a dychwelyd i fywyd cymunedol ers y pandemig. Mae'r rhain yn cynnwys pobl â dementia, pobl oedd gynt yn gwarchod eu hunain, neu bobl sy'n agored i niwed.
Mae ein tîm Cartref Gofal Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru yn falch o lansio Platfform Adnoddau ar-lein newydd heddiw ar gyfer Staff Gofal yn y Cartref a Staff Cartrefi Gofal.
Heddiw yw Diwrnod Diogelwch Cleifion y Byd Sefydliad Iechyd y Byd. Ar hyn o bryd, mae diogelwch cleifion yn ennyn mwy o sylw nag erioed o bosib, o ystyried yr angen i ni ddiogelu cleifion rhag niweidiau COVID-19.
I ddathlu’r Wythnos Anableddau Dysgu genedlaethol, yn gynt heddiw, cynhaliodd tîm ein rhaglen Anabledd Dysgu Cymru gyfarfod ar-lein o bartneriaid allweddol i gwblhau manylion lansio adnodd newydd y Proffil Iechyd, er mwyn cynorthwyo pobl ag anabledd dysgu i gael gofal iechyd cyson, diogel ac amserol yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, mae llawer o'n staff yn helpu cydweithwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru i ymateb i'r achosion presennol o Goronafeirws Newydd (COVID-19) fel blaenoriaeth. Mae’n bosibl y bydd hyn yn effeithio ar rai o'n rhaglenni a’n digwyddiadau. Cysylltwch â'ch arweinydd i gael rhagor o wybodaeth os ydych chi'n ansicr ac ewch i icc.gig.cymru/coronafeirws i gael y newyddion diweddaraf am yr achosion
A ydych chi wedi cyflawni newid sydd wedi trawsnewid y profiad a’r canlyniadau i bobl Cymru? Mae’r Gwobrau’n gyfle i chi arddangos eich gwaith – cynigiwch amdanynt heddiw.
Dros gyfnod o ddeuddydd yn gynt yr wythnos hon, croesawom dros 650 o gyfranogwyr o bob cwr o Gymru i ailfeddwl sut rydym ni’n gwella – gyda’n gilydd.
Heddiw, rydym ni’n ail-lansio’n swyddogol fel Gwelliant Cymru, gwasanaeth gwelliant Cymru gyfan GIG Cymru, sy’n datblygu, mewnosod a chyflwyno gwelliannau ar draws y system ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.