Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth a Chanllawiau ar Fêpio i Ddysgwyr Oedran Uwchradd yng Nghymru

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynhyrchu adnodd gwybodaeth ac arweiniad ar fêpio ar gyfer dysgwyr oed uwchradd yng Nghymru. Mae’r ddogfen yn darparu data a gwybodaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth i ysgolion gan gynnwys sut y gallant ymateb i’r fêpio yn eu lleoliad a helpu i fynd i’r afael ag ef trwy bolisi, arferion, a chynnwys y cwricwlwm.

Faint o bobl ifanc sy'n defnyddio dyfeisiau fêpio yng Nghymru?

Nid yw'r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn defnyddio e-sigaréts. Fodd bynnag, mae astudiaethau gan gynnwys Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN) yng Nghymru wedi dangos bod y defnydd o ddyfeisiau fêpio ymhlith plant a phobl ifanc yn y DU wedi bod ar gynnydd yn y blynyddoedd diwethaf.

Mae arolwg diweddar sy'n rhoi ciplun ar y sefyllfa o ddisgyblion ym mlynyddoedd 7 a 10 o sampl fach o ysgolion uwchradd Cymru wedi canfod bod cyfran y disgyblion blwyddyn 10 sy’n defnyddio e-sigaréts bob dydd tua 9 i 10 y cant. 
 

Pam fod yna bryder am fêpio ymhlith pobl ifanc?

Er bod newid i fêpio  o ysmygu yn dod ag amrywiaeth o fanteision iechyd i ysmygwyr, nid oes unrhyw fudd o fêpio i'r rhai nad ydynt yn ysmygu, yn enwedig plant a phobl ifanc. Am y rheswm hwn, mae eisoes yn anghyfreithlon gwerthu e-sigaréts i bobl o dan 18 oed.

Prin iawn yw'r dystiolaeth ynghylch yr effeithiau ar iechyd sy'n deillio o’r defnydd o dyfeisiau fêpio . Fodd bynnag, mae fêpio yn rhoi pobl ifanc mewn perygl o fod yn gaeth i nicotin, dibyniaeth sy'n effeithio ar eu haddysg, eu hymddygiad a'u bywyd bob dydd.

Datgelodd yr arolwg diweddar sy'n rhoi ciplun ar y sefyllfa, ymhlith dysgwyr Blwyddyn 10 a ddywedodd eu bod yn fêpio  yn ddyddiol, fod tua dwy ran o dair yn dangos arwyddion o ddibyniaeth gymedrol neu uchel ar nicotin gan ddefnyddio mesur wedi’i ddilysu.

Mae effaith y ddibyniaeth hon yn cael ei gweld gan ysgolion sydd hefyd yn adrodd am broblemau cynyddol gyda defnyddio e-sigaréts ac ymddygiadau problemus o ganlyniad. Mae penaethiaid wedi adrodd bod y defnydd o e-sigaréts wedi dod yn broblem gynyddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf gan olygu eu bod yn gorfod monitro ardaloedd penodol o'u safle ar gyfer fêpio (er enghraifft toiledau). Nododd arweinwyr ysgol hefyd gynnydd mewn gwaharddiadau ysgol yn ymwneud â fêpio  yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf.

Mewn ymateb i'r pryderon a fynegwyd gan Benaethiaid a rhanddeiliaid mewn lleoliadau addysg a lleoliadau eraill, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynhyrchu adnodd gwybodaeth ac arweiniad ar fêpio.

Y Negeseuon Allweddol

  • Ni ddylai plant a phobl ifanc ddefnyddio dyfeisiau fêpio.
  • Mae’n anghyfreithlon gwerthu dyfeisiau fêpio sy’n cynnwys nicotin i unrhyw un o dan 18 oed neu i oedolion eu prynu ar ran pobl ifanc dan 18 oed. Gellir rhoi gwybod yn ddienw i 'Dim Esgus. Byth'. Am y rhai sy'n gwerthu neu'n cael eu hamau o werthu naill ai e-sigaréts nicotin neu gynhyrchion tybaco i rai dan 18 oed.
  • Mae niferoedd cynyddol o dyfeisiau fêpio anghyfreithlon ar werth nad ydynt yn bodloni'r safonau ansawdd a diogelwch llym yn y DU. Gall y dyfeisiau hyn fod yn arbennig o beryglus oherwydd canfuwyd bod rhai ohonynt yn cynnwys lefelau uchel iawn o nicotin a metelau peryglus fel plwm. Mae dyfeisiau eraill yn cael eu labelu fel rhai heb nicotin pan fyddant yn cynnwys nicotin. Mae e-sigaréts anghyfreithlon wedi'u canfod mewn ysgolion yn y DU
  • Mae fêpio yn fwy diogel nag ysmygu ond nid yw'n ddiberygl. Gall fêpio  effeithio ar iechyd person, gan gynnwys caethiwed, gwenwyno, gwenwyndra o anadliad ac anaf i'r ysgyfaint. Gall dyfeisiau achosi trawma a llosgiadau oherwydd batris lithiwm yn ffrwydro. Fodd bynnag,mae’r dystiolaeth ar effeithiau iechyd hirdymor fêpio yn gyfyngedig gan nad ydynt wedi bodoli’n ddigon hir i wybod y risg o ddefnydd hirdymor.
  • Gall fêpio arwain at ddibyniaeth ar nicotin. Gall dibyniaeth ar nicotin effeithio’n negyddol ar iechyd meddwl a lles a gall darfu ar fywyd a dysgu
  • Gall oedolion sy’n ysmygu leihau’r risg o niwed o ysmygu trwy newid i fêpio ond nid yw fêpio yn cael ei argymell ar gyfer y rhai nad ydynt yn ysmygu, ac ni ddylai plant a phobl ifanc eu defnyddio
  • Os oes angen cymorth ar oedolyn, plentyn neu unigolyn ifanc o dan 18 oed i roi’r gorau i ysmygu, dylent ofyn am gyngor gan Helpa Fi i Stopio, yna byddant yn cael eu harwain at y llwybr triniaeth priodol (12+ oed).
  • Os yw unigolyn yn dymuno rhoi’r gorau i fêpio , gall hefyd gysylltu â llinell gymorth genedlaethol Helpa Fi i Stopio 0800 085 2219 am gyngor a chymorth.
     

Y camau nesaf

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gydag ysgolion a rhanddeiliaid eraill i nodi a datblygu deunyddiau ategol ar gyfer ysgolion uwchradd a lleoliadau addysgol eraill i gefnogi gweithrediad y canllawiau. Byddwn yn rhannu'r rhain unwaith y byddant ar gael.
 

Adborth

Mae gennym ddiddordeb mewn cael eich adborth ar y ddogfen ganllaw. Cwblhewch a chyflwynwch y ffurflen ar-lein i gofrestru eich adborth.