Cyhoeddwyd: 26 Gorffennaf 2024
Mae ymchwil sydd eisoes yn bodoli i fanteision systemau rhybudd cynnar o lifogydd wedi canolbwyntio ar eu heffaith ar golledion diriaethol, megis difrod i eiddo, yn hytrach nag ystyried eu heffeithiolrwydd ar gyfer lleihau effeithiau negyddol llifogydd ar iechyd.
Yn ddiweddar, cynhyrchodd Gwasanaeth Tystiolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru adolygiad cwmpasu a oedd â’r nod o archwilio a yw systemau rhybudd cynnar o lifogydd wedi bod yn effeithiol o ran lliniaru effeithiau llifogydd ar iechyd.
Ychydig iawn o dystiolaeth a ganfu’r adolygiad sy’n ystyried effeithiolrwydd systemau rhybudd cynnar o lifogydd ar effeithiau iechyd. Mae’r rhan fwyaf o’r ymchwil presennol yn canolbwyntio ar yr effaith lliniarol y mae systemau’n ei chael ar eiddo neu asedau diriaethol eraill.
Roedd rhywfaint o dystiolaeth bod y rhai a dderbyniodd rybuddion cynnar o lifogydd ar eu hennill. Mae’r ymchwil yn awgrymu po hiraf o rybudd i lifogydd, y lleiaf yw’r effeithiau negyddol tymor byr neu hirdymor ar iechyd.
Dangosodd astudiaeth arall fod iselder ac anhwylder straen wedi trawma (PTSD) yn uwch ymhlith pobl a gafodd eu dadleoli gan lifogydd ac nad oeddent wedi cael unrhyw rybudd cynnar, o’u cymharu â'r rhai a gafodd rybudd llifogydd fwy na 12 awr ymlaen llaw.
Yn ogystal â hyn, cynhaliodd y gwasanaeth adolygiad o'r dystiolaeth a oedd yn archwilio ymyriadau i gefnogi iechyd meddwl a llesiant mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd ac ar ôl digwyddiad llifogydd.
Ni chanfu’r adolygiad cwmpasu unrhyw ymchwil eilaidd a oedd yn canolbwyntio’n llwyr ar ymyriadau iechyd meddwl a llesiant i’r rhai yr effeithiwyd arnynt gan lifogydd. Fodd bynnag, roedd peth ymchwil a ystyriodd trychinebau yn fwy cyffredinol ac a awgrymodd fod trallod o ganlyniad i lifogydd fel arfer dros dro i’r mwyafrif o bobl, ond y gallai fod angen cyfeirio rhai pobl at wasanaethau iechyd meddwl arbenigol ar gyfer problemau seicolegol sylweddol a pharhaus.
Dywedodd Amy Hookway, Prif Ddadansoddwr Tystiolaeth a Gwybodaeth yn y Gwasanaeth Tystiolaeth yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Gall llifogydd gael effaith sylweddol ar iechyd meddwl a chorfforol, pan fydd llifogydd gwirioneddol yn digwydd a phan fydd unigolion yn ymwybodol eu bod yn byw mewn ardal lle mae perygl o lifogydd.
“Mae achos clir dros wneud ymchwil pellach yn y meysydd hyn, yn enwedig gydag arwyddion y bydd newid hinsawdd yn arwain at lifogydd yn digwydd yn amlach yng Nghymru.”
Gellir dod o hyd i'r adroddiad llawn yma.