Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun Gwên

Cynllun Gwên

 

 
 

Mae Cynllun Gwên yn cynnwys:

Rhaglen genedlaethol i wella iechyd y geg ymysg plant Cymru yw Cynllun Gwên.  Fe’i hariennir gan Lywodraeth Cymru a chafodd ei lansio yn 2009. Mae holl wasanaethau'r Cynllun Gwên a holl driniaethau deintyddol y GIG ar gyfer plant yn RHAD AC AM DDIM. 
Rhaglen ataliol ar gyfer plant o enedigaeth:  Mae hyn yn cynnwys ystod eang o weithwyr proffesiynol, gan gynnwys ymwelwyr iechyd a gwasanaethau blynyddoedd cynnar eraill. Y nodau yw helpu i gychwyn arferion da yn gynnar trwy roi cyngor i deuluoedd â phlant ifanc, gan roi brwsys dannedd a phast dannedd, ac annog mynd i bractis deintyddol cyn pen-blwydd cyntaf y plentyn. 
Rhaglen ataliol i blant Meithrin ac Ysgolion Cynradd: Mae hyn yn cynnwys cyflwyno rhaglenni brwsio dannedd a farnais fflworid mewn meithrinfeydd ac ysgolion ar gyfer plant i helpu i ddiogelu dannedd yn erbyn pydredd.