Neidio i'r prif gynnwy

Dyletswydd Gonestrwydd

O fis Ebrill 2023 ymlaen, mae'r Ddyletswydd Gonestrwydd yn ofyniad cyfreithiol i bob sefydliad y GIG yng Nghymru. 

Dylai bod yn agored ac yn onest fod wrth wraidd pob perthynas rhwng y rhai sy'n darparu triniaeth a gofal a'r rhai sy'n ei dderbyn. 

Yn y GIG, rydym yn ymdrechu i ddarparu gofal diogel a thosturiol o ansawdd uchel i bob un o ddefnyddwyr ein gwasanaethau. Fodd bynnag, hyd yn oed pan fyddwn yn gwneud ein gorau, gall pobl brofi niwed weithiau. Dyna pam mae’r Ddyletswydd Gonestrwydd gennym.  

Ein nod yw creu diwylliant o ymddiriedaeth a bod yn agored, fel y gallwch deimlo'n hyderus yn y gofal a gewch gennym. 

Mae’r Ddyletswydd Gonestrwydd yn ofyniad cyfreithiol i Sefydliadau GIG Cymru fod yn agored ac yn onest gyda’r defnyddwyr gwasanaethau sy’n derbyn gofal a thriniaeth. Amlinellir hyn yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020.

Mae’r Ddyletswydd Gonestrwydd yn berthnasol os yw’r gofal a ddarparwn wedi, neu y gallai fod wedi cyfrannu at niwed cymedrol neu ddifrifol annisgwyl neu anfwriadol, neu farwolaeth. 

Mae'r ddyletswydd hon yn datblygu ar ein proses Gweithio i Wella ar gyfer codi pryderon neu gwynion. 

Nid oes angen i chi gysylltu â ni ynglŷn â Dyletswydd Gonestrwydd. Byddwn yn cysylltu â chi os yw’r Ddyletswydd Gonestrwydd yn berthnasol i'ch gofal a'ch triniaeth. Dylech barhau i ddefnyddio ein proses Gweithio I Wella ar gyfer codi pryderon neu gwynion. 

Cwestiynau cyffredin

 

Dysgwch fwy am Ddyletswydd Gonestrwydd yn ein taflen: