Amdanom ni

Rydym ni’n Iechyd Cyhoeddus Cymru – y sefydliad iechyd y cyhoedd cenedlaethol i Gymru. Ein nod yw ‘gweithio gyda’n gilydd ar gyfer Cymru iachach’. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hir ac iachach. Gyda’n partneriaid, rydym yn anelu at gynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a lles, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac i genedlaethau’r dyfodol.

Gyda’n gilydd, mae ein timau’n gweithio i atal clefydau, diogelu iechyd, ac i ddarparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol a gwybodaeth arbenigol iechyd y cyhoedd. Rydym yn brif ffynhonnell gwybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd y cyhoedd yng Nghymru.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn un o’r 11 o sefydliadau sy’n ffurfio GIG Cymru.

Mae’r wybodaeth ganlynol yn nodi’r math o wybodaeth y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei chynhyrchu a’r prosesau gwneud penderfyniadau cysylltiedig sy’n cael eu darparu’n gyhoeddus. Fe’i rhannir fel rhan o’n hymrwymiad i fod yn agored ac yn dryloyw ynghylch ein gwaith a’n cyfrifoldebau.

Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud

Beth yw ein blaenoriaethau a sut rydym yn perfformio

Beth rydym yn ei wario a sut rydym yn ei wario

Sut rydym yn gwneud penderfyniadau

Ein polisïau a’n gweithdrefnau

Rhestrau a chofrestrau

Dogfennau llywodraethu a sicrwydd

Adroddiadau Archwilio

Perfformiad ac Adrodd Ariannol

Y gwasanaethau rydym yn eu cynnig

I’w ddod yn fuan.