Dywedoch chi, gwnaethon ni
Mae gwrando ar adborth gan bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau yn ein helpu i ddeall yr hyn sydd bwysicaf a sut y gallwn wella. Mae’r enghreifftiau Dywedoch Chi, Gwnaethon Ni ar y dudalen hon yn dangos sut y gwrandawyd ar adborth a sut y gweithredwyd arno neu’n egluro pam nad oedd newid yn bosibl.
Mae pob enghraifft yn nodi’n glir:
- Dywedoch chi – yr hyn a ddywedodd pobl wrthym am eu profiadau
- Gwnaethon ni – yr hyn a newidiodd o ganlyniad, neu
- Ein hymateb – pam na ellid newid ar hyn o bryd
Mae’r enghreifftiau hyn yn dangos ein hymrwymiad i wrando, dysgu, a bod yn agored ynglŷn â sut mae adborth yn dylanwadu ar wella gwasanaethau.
Mae Dywedoch Chi, Gwnaethon Ni yn ein helpu i wneud y canlynol:
- Dangos sut mae adborth yn arwain at welliannau gwirioneddol
- Bod yn agored ac yn onest ynglŷn â phenderfyniadau
- Rhannu dysgu ar draws gwasanaethau
- Meithrin ymddiriedaeth drwy fod yn dryloyw
Nid yw pob darn o adborth yn arwain at newid, ond mae pob sylw yn cael ei ystyried yn ofalus ac yn helpu i lunio gwelliannau yn y dyfodol.
Isod mae rhai enghreifftiau o sut rydym wedi defnyddio eich adborth/profiadau i wella ein gwasanaethau. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei diweddaru tair gwaith y flwyddyn.
Dywedoch Chi
Gwnaethon Ni
| Dywedodd pobl a fynychodd apwyntiadau sgrinio llygaid diabetig wrthym fod arwyddion ar goll mewn rhai lleoliadau. Nid oeddent bob amser yn siŵr ble i fynd pan gyrhaeddon nhw neu a oeddent yn aros yn y lle iawn. Roedd hyn yn gwneud eu hymweliad yn fwy anodd. |
Gwnaethon ni atgoffa timau i ddefnyddio’r arwyddion a ddarperir yn eu pecynnau sgrinio. Dylent roi’r arwyddion o amgylch lleoliadau cymunedol, yn enwedig ger y dderbynfa, fel bod pobl yn gwybod ble i fynd. Rydyn ni hefyd yn profi arwyddion newydd mewn dau leoliad cymunedol. Maen nhw’n dweud: “Cymerwch sedd. Byddwn yn galw eich enw.” “Os ydych wedi aros am fwy na 30 munud, ffoniwch ni ar 0300 003 0500.” |
| Dywedoch chi wrthym y byddai amserlenni bysiau yn y dderbynfa yn eich helpu i gynllunio’ch taith adref. | Rydyn ni nawr wedi rhoi amserlenni bysiau lleol yn nerbynfeydd Tŷ Ross a Thŷ Kimberly. Bydd hyn yn helpu pobl sy’n teithio ar fws i gynllunio eu taith adref. |
| Dywedodd cyfranogwr wrthym fod ganddynt anawsterau symudedd a byddai angen help arnynt i symud yn ystod eu hapwyntiad sgrinio anewrysm aortig yn yr abdomen. I ddechrau, dywedwyd wrthyn nhw na allai staff helpu ac y byddai angen iddynt ddod â rhywun gyda nhw. | Gwnaethon ni adolygu’r hyn a ddigwyddodd a darganfod y gallai aelod ychwanegol o staff gefnogi’r cyfranogwr. Roedd hyn yn golygu eu bod yn gallu mynychu eu hapwyntiad. Rydyn ni hefyd wedi diweddaru ein gweithdrefnau fel bod cyfranogwyr ag anghenion symudedd yn cael eu hasesu’n unigol. Lle bo’n bosibl, byddwn yn gwneud trefniadau i’w helpu i gael mynediad at sgrinio. |
| Roedd cyfranogwr yn hwyr ar gyfer eu hapwyntiad sgrinio oherwydd oedi gyda’u cludiant ambiwlans. Adroddwyd am yr oedi, ond ni chafodd yr wybodaeth hon ei throsglwyddo’n glir. O ganlyniad, roedd y tîm sgrinio eisoes wedi gadael cyn i’r cyfranogwr gyrraedd. | Gwnaethon ni wella’r broses ar gyfer delio ag oedi gyda chludiant. Gwnaethon ni roi hyfforddiant ychwanegol i staff a diweddaru prosesau sefydlu staff newydd. Gwnaethon ni hefyd adolygu ein gweithdrefnau fel bod anghenion cludiant yn cael eu hadnabod, eu cofnodi a’u rhannu’n gliriach. |
| You told us that the main entrance door at Kimberley House Clinic was heavy and difficult to use, making access challenging for some visitors. | Gwnaethon ni godi’r mater gyda’n landlord a gweithio gyda nhw i ddod o hyd i ateb. Mae trefniadau bellach wedi’u gwneud i gontractwyr dendro am ddrysau blaen newydd, ac rydym yn parhau i weithio gyda’r landlord i sicrhau bod y gwelliannau hyn yn cael eu gwneud cyn gynted â phosibl. |