Neidio i'r prif gynnwy

Farnais Fflworid

Farnais Fflworid

Gall timau deintyddol yn eich practis deintyddol teuluol ac mewn rhai meithrinfeydd ac ysgolion roi farnais fflworid ar ddannedd. Os ydych wedi derbyn ffurflen gydsynio, mae hyn yn golygu bod meithrinfa neu ysgol eich plentyn yn cymryd rhan. Os hoffech i’ch plentyn gael farnais fflworid, cwblhewch y ffurflen gydsynio. Dim ond unwaith y bydd yn rhaid i chi lofnodi’r ffurflen gydsynio hon ar ôl cofrestru eich plentyn ar y rhaglen. Ar ôl hynny, byddwn yn cysylltu â chi ddwywaith y flwyddyn, yn gofyn i chi ddiweddaru manylion meddygol eich plentyn.

Mae ganddo flas braf ac mae’n arogli fel ffrwythau. Jel euraid yw’r farnais fflworid ac mae’n cael ei roi ar wyneb dant sych gan weithiwr deintyddol proffesiynol hyfforddedig. Mae’n helpu i atal pydredd dannedd drwy gryfhau’r dannedd, ac mae tystiolaeth yn dangos ei fod yn fwyaf effeithiol os caiff ei roi ar y dannedd o leiaf ddwywaith y flwyddyn.

Mae’r farnais yn caledu'n gyflym ar ôl cael ei roi ar y dant, felly gall y fflworid fod mewn cysylltiad ag arwyneb allanol y dannedd am gyfnod hir. Gall y lliw euraid gymryd ychydig ddyddiau i bylu.

Sut y caiff y farnais fflworid ei roi ar y dant?

Mae’r broses yn gyflym a hawdd

Mewn meithrinfeydd ac ysgolion, bydd y tîm deintyddol yn rhoi ei gyfarpar cludadwy arbennig mewn man tawel a phreifat yn yr ysgol.

Dim ond staff deintyddol sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig sy’n gallu rhoi’r farnais fflworid ar ddannedd. Mae rheolau llym ar gyfer hylendid a rheoli heintiau. Caiff pâr glân o fenig clinigol eu gwisgo a phecyn fflworid newydd ei ddefnyddio ar gyfer pob plentyn. Caiff dannedd y plentyn eu sychu’n ysgafn â gwlân cotwm a rhoddir y swm cywir o fflworid gan ddefnyddio brws meddal sy’n cael ei ddefnyddio unwaith yn unig. 

Ar ôl rhoi’r farnais fflworid ar ddannedd eich plentyn, bydd eich plentyn yn cael cerdyn ôl-ofal i fynd adref gydag ef.

Cyfarwyddiadau Ôl-ofal

Peidiwch â gadael i’ch plentyn fwyta bwydydd caled fel afalau, moron neu greision heddiw er mwyn osgoi crafu’r farnais oddi ar y dant.

Byddwn yn trefnu i beintio dannedd eich plentyn gyda farnais fflworid eto, yn y feithrinfa neu’r ysgol, ymhen 6 mis.

Os bydd eich plentyn yn cael problemau neu adwaith alergaidd ar ôl cael y farnais heddiw, cysylltwch â’r ysgol neu’r tîm Cynllun Gwên lleol.

Nid yw eich plentyn wedi cael archwiliad deintyddol manwl. Mae’n bwysig bod eich plentyn yn mynd i weld deintydd yn rheolaidd i gael archwiliadau a rhowch wybod i’ch deintydd fod eich plentyn wedi cael farnais fflworid yn yr ysgol.