Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr

 

Diolch i chi am eich diddordeb wrth ymgeisio am swydd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cyn cyflwyno'ch cais, darllenwch yr wybodaeth isod.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach am weithio i Iechyd Cyhoeddus Cymru neu’r rôl ei hun, cysylltwch â’r rheolwr penodi. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt y rheolwr yn yr hysbyseb. 

Iechyd Cyhoeddus Cymru yw Sefydliad Iechyd y Cyhoeddus cenedlaethol Cymru. Ei weledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru ac, wrth gyflawni'r weledigaeth hon, mae'n chwarae rhan ganolog mewn ysgogi gwelliannau o ran iechyd a llesiant y boblogaeth, lleihau anghydraddoldebau iechyd, gwella canlyniadau gofal iechyd, diogelu'r cyhoedd a chefnogi datblygiad iechyd ym mhob polisi ledled Cymru. 

I gael rhagor o wybodaeth am Iechyd Cyhoeddus Cymru porwch drwy ein gwefan a darllenwch am ein Cynllun Strategol.