Neidio i'r prif gynnwy

Ddyletswydd Ansawdd

Beth yw Dyletswydd?

Mae Dyletswydd yn rhwymedigaeth gyfreithiol y disgwylir i Iechyd Cyhoeddus Cymru ei chyflawni i fodloni safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.

Beth yw’r Ddyletswydd Gofal?

Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cyfraith newydd i wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Fe’i gelwir yn Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020.

Mae'n cynnwys Dyletswydd Ansawdd sy'n golygu bod gan holl sefydliadau’r GIG gyfrifoldeb cyfreithiol i wella ansawdd y gwasanaethau a ddarperir ganddynt yn barhaus. Mae’r Ddyletswydd hefyd yn berthnasol i sut mae Gweinidogion Cymru yn rheoli swyddogaethau iechyd yng Nghymru.
 

Beth ydym yn ei olygu pan rydym yn sôn am 'Ansawdd'?

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu’r diffiniad a ganlyn o’r hyn y mae Ansawdd yn ei olygu i ofal iechyd yn eu canllawiau:

'Diffinnir ansawdd fel diwallu anghenion y boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu yn barhaus, yn ddibynadwy ac yn gynaliadwy.'
 

Beth mae hyn yn ei olygu i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd

Mae’r Ddyletswydd Ansawdd yn berthnasol i holl staff GIG Cymru, p’un a ydynt yn gweithio mewn rolau clinigol (fel meddygon neu nyrsys) neu wasanaethau anghlinigol (fel porthorion a rolau gweinyddol). 

Nod y Ddyletswydd yw:

  •  Gwella ansawdd gwasanaethau iechyd
  •  Helpu pobl yng Nghymru i fyw’n iach am fwy o flynyddoedd
  •  Gwrando mwy ar bobl a chleifion a gweithredu ar yr hyn a rennir

Mae angen i bob sefydliad iechyd, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, sicrhau bod gwasanaethau’n ddiogel ac yn ddibynadwy i bawb sy’n eu defnyddio drwy fodloni 12 o Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal newydd (gweler isod). Mae’r safonau hyn yn rhan o’r Ddyletswydd Ansawdd a gyflwynwyd ar 1 Ebrill 2023.

 

12 Safon Ansawdd Iechyd a Gofal y Ddyletswydd Ansawdd

Mae’r Ddyletswydd Ansawdd wedi cyflwyno 12 safon newydd i helpu sefydliadau iechyd, fel Iechyd Cyhoeddus Cymru, i ddeall sut olwg sydd ar ansawdd da. Maent yn ein helpu i ddatblygu ein cynlluniau i fesur, monitro a darparu ansawdd yn ein gwasanaethau.  Mae diffiniad ar gyfer pob un o'r safonau i'w weld yn y Canllaw Statudol Dyletswydd Ansawdd sydd i'w weld yma.

Wrth ddatblygu’r Canllawiau ar y Ddyletswydd Ansawdd, penderfynodd Llywodraeth Cymru fod y Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal newydd (2023) yn disodli’r Safonau Iechyd a Gofal blaenorol (Ebrill 2015).

Mae’r deuddeg safon yn cynnwys chwe pharth ansawdd (mae parth yn faes penodol neu’n bethau yr hoffem gael gofal iechyd o ansawdd da):

  • Diogel
  • Amserol
  • Yn effeithiol
  • Canolbwyntio ar yr unigolyn
  • Teg
  • Effeithlon

Mae'r chwe safon arall yn amlinellu'r hyn sydd ei angen i gefnogi  gwasanaethau iechyd o ansawdd da:

  • Arweinyddiaeth
  • Diwylliant
  • Dysgu, Gwella ac Ymchwil
  • Y Gweithlu
  • Dull System Gyfan
  • Gwybodaeth

Mae'r diagram hwn yn dangos y chwe pharth ansawdd a gefnogir gan y chwe galluogwr ansawdd.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth yma am ystyr y safonau hyn.

 

Rhannu ein cynnydd

Fel rhan o'r Ddyletswydd newydd, mae'n ofynnol i Iechyd Cyhoeddus Cymru adrodd a rhannu ein cynnydd ar berfformiad ein gwasanaethau, a sut rydym yn cyflawni ein rhwymedigaethau i'r Ddyletswydd Ansawdd.

Gweler yr adran isod ar Adrodd ar y Ddyletswydd Ansawdd am ragor o wybodaeth.

O dan y Ddyletswydd, mae angen i’r holl sefydliadau iechyd, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, lunio Adroddiad Ansawdd Blynyddol sy'n rhoi gwybodaeth am ein cynnydd o ran gwella ansawdd ein gwasanaethau. Bydd yr adroddiad cyntaf yn cael ei gyhoeddi yng ngwanwyn 2024.

 

Adrodd ar y Ddyletswydd Ansawdd

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn adrodd yn rheolaidd ar ei gynnydd ar berfformiad ein gwasanaethau, a sut rydym yn cyflawni ein rhwymedigaethau i fodloni'r Ddyletswydd Ansawdd. Rydym yn adrodd ar yr wybodaeth hon mewn nifer o ffyrdd ar ein tudalennau rhyngrwyd. Gall y dolenni canlynol fynd â chi at ragor o wybodaeth:

  • Papurau Pwyllgorau a Bwrdd – Yma gallwch ddod o hyd i’n Hadroddiadau Blynyddol a phapurau eraill (fel ein Hadroddiad Perfformiad Integredig) a gyflwynir i’n gwahanol Bwyllgorau ac ar lefel Bwrdd. Mae'r papurau hyn yn rhoi manylion am ystod eang o bynciau sy'n ymwneud ag iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Maent hefyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ba mor dda y mae ein gwasanaethau’n gweithio a’r effaith y mae ein gwaith yn ei chael i helpu i gadw pobl yng Nghymru yn iachach am gyfnod hirach.
  • Os oes gennych ddiddordeb mewn cael rhagor o ddata ac ystadegau am iechyd yng Nghymru, gallwch gael rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau gwe. Yma gallwch ddod o hyd i’r data diweddaraf ar y nifer sy’n cael eu himiwneiddio yng Nghymru, yr ystadegau diweddaraf ar gyfraddau COVID-19, a gwybodaeth am y gwahanol dimau yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan gynnwys Gwybodaeth Iechyd, Sgrinio, Heintiau sy’n Gysylltiedig â Gofal Iechyd, Clefydau a Heintiau a Chanser.

 

Dysgwch ragor

Mae'r fideo hwn yn helpu i egluro yr hyn y mae'r Ddyletswydd Ansawdd yn ei olygu i bob un ohonom.

 

Gallwch hefyd ddarllen mwy yma am Ganllawiau a Safonau’r Ddyletswydd Ansawdd.