Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd a Lles: Canllaw i weithio gyda phobl ifanc

Datblygwyd y canllaw hwn fel adnodd ar gyfer Gweithwyr Ieuenctid ac ystod eang o weithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr eraill sy’n cyflwyno negeseuon iechyd a lles i blant a phobl ifanc 11-25 oed.  Mae’n rhoi gwybodaeth a gweithgareddau hybu iechyd ar ystod o feysydd testun.
 
Mae'r testunau fel a ganlyn:

Torri'r Garw Smygu
Bwyd a Ffitrwydd Alcohol
Lles Emosiynol Cyffuriau
Iechyd Rhywiol a Chydberthynas Cyffuriau

Mae pob adran yn cynnwys nifer o weithgareddau y gellir eu cyflwyno fel y bo angen naill ai fel rhan o raglen astudiaeth neu fel sesiynau unigol. Mae gwybodaeth gefndir am bob testun a rhestr o gysylltiadau neu wefannau defnyddiol wedi eu cynnwys gyda phob adran hefyd.

 

Cyflwynir y Canllaw fel dogfen pdf, y bydd angen ei hagor mewn Adobe Acrobat.  (Mae Adobe Acrobat Reader ar gael i’w lawrlwytho am ddim yma.)
 
Nodir:

  • Bydd angen y rhyngrwyd i wylio fideos ar gyfer rhai o’r gweithgareddau.
  • Trwy gydol y Canllaw ceir taflenni gwaith y bydd angen peiriant argraffu arnoch ar eu cyfer.
  • Mae dau gyflwyniad PowerPoint ar gael i’w lawrlwytho ar wahân: