Neidio i'r prif gynnwy

Polisïau a Gweithdrefnau

Mae'r dudalen hon gyda dolenni i bolisïau a gweithdrefnau Iechyd Cyhoeddus Cymru. Gall staff gweld y broses am datblygu a'r cymeradwyeth o'r polisiau ar mewnrwyd Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Caiff polisïau a gweithdrefnau Cymru gyfan eu datblygu a'u cytuno ar sail Cymru gyfan i fod yn berthnasol i holl staff GIG Cymru.

Mae rhestr lawn o’r Polisïau a’r Gweithdrefnau Corfforaethol a’r Dogfennau Rheoli Ysgrifenedig Eraill ar gael yma

Ym mis Gorffennaf 2022, cymeradwyodd Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru bolisi wedi’i ddiweddaru ar gyfer Polisïau a Gweithdrefnau Corfforaethol a Dogfennau Rheoli Ysgrifenedig Eraill. Yn y ddogfen hon, cadarnhaodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ei ymrwymiad y bydd yr holl Bolisïau a Gweithdrefnau a gedwir ar y gofrestr gorfforaethol yn cael eu cyhoeddi ar y wefan, ac y cânt eu darparu yn Gymraeg. Bydd yr holl Bolisïau sy’n cael eu hadnewyddu a’u cymeradwyo bellach yn cael eu cyfieithu cyn eu cyhoeddi, a byddant ar gael ar fersiwn Gymraeg y tudalennau polisi. Yn y cyfamser, os bydd angen y polisïau a’r gweithdrefnau arnoch yn Gymraeg, cysylltwch â PHW_Board.Business@wales.nhs.uk, a bydd cyfieithiad yn cael ei drefnu.