Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio’n agos gyda Dŵr Cymru i ymateb i’r prinder dŵr a achoswyd gan y digwyddiad yng Ngwaith Trin Dŵr Bryn Cowlyd yn Nolgarrog, Conwy.
Mae tystiolaeth o wledydd gan gynnwys Mecsico a Hwngari, wedi dangos, pan fydd llywodraethau wedi cymryd camau i gyflwyno trethi ar fwydydd afiach a diodydd wedi'u melysu â siwgr (SSBs), mae'n arwain at ostyngiad yn eu pryniant a'u defnydd.
Mae rhoi rhaglenni effeithiol ar waith i atal iechyd gwael yn cynnig gwerth gwych am arian. Gall mentrau atal megis addysg blynyddoedd cynnar, rhaglenni brechu, rhoi'r gorau i ysmygu a chymorth i ofalwyr ddarparu gwerth rhagorol am arian - gydag enillion cyfartalog o £14 am bob £1 a fuddsoddir ynddynt.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog rhieni a gofalwyr i fod yn wyliadwrus am symptomau norofeirws cyn i ysgolion a meithrinfeydd ailagor, wrth i achosion o'r salwch gynyddu yng Nghymru.
Mae’r Prif Weithredwr Dr Tracey Cooper wedi cael ei dyfarnu’n Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Brenin 2025.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn atgoffa pobl o’r camau y gallant eu cymryd i amddiffyn eu hunain, eu teuluoedd, a’u cymunedau rhag y ffliw wrth gynllunio eu dathliadau Blwyddyn Newydd.
Mae dadansoddiad newydd o ddarpariaeth gofal ailalluogi mewn dau awdurdod lleol yng Nghymru yn nodi y gall gwasanaethau o'r fath arwain at lai o bobl y mae angen cynlluniau gofal hirdymor arnynt.
Mae adolygiad cyflym a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn cydweithrediad â Chanolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi nodi ymyriadau a allai helpu i gynorthwyo’r heriau y mae unigolion â gordewdra ar restrau aros hir ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru yn eu hwynebu.
Wrth i dymor y Nadolig fynd yn ei anterth, mae arbenigwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn atgoffa pobl, er ei bod yn dymor i rannu anrhegion, bwyd a dathliadau, bod rhannu germau yn llawer llai o hwyl a gall gael canlyniadau difrifol i bobl agored i niwed yn ein teuluoedd a’n cymunedau.
Mae adroddiad Anghydraddoldeb Sgrinio diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod pobl sy’n byw yn y cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn llai tebygol o fanteisio ar eu cynnig o sgrinio o gymharu â’r rhai sy’n byw yn y cymunedau lleiaf difreintiedig.