O 9 Hydref, bydd pobl 50 oed yng Nghymru yn dod yn gymwys i gael prawf sgrinio’r coluddyn drwy’r GIG. Bydd y rhai sydd wedi cofrestru gyda Meddyg Teulu yn derbyn pecyn prawf sgrinio’r coluddyn am ddim yn awtomatig bob dwy flynedd.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi adnewyddu’r dangosyddion yn offeryn adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd.
Gall ffliw beryglu bywyd pobl sydd â chyflyrau iechyd penodol. Dyna pam mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus yng Nghymru yn annog y rhai sy'n wynebu risg glinigol i sicrhau eu bod yn cael eu brechu yn erbyn ffliw yn ogystal â COVID-19 yr hydref hwn.
Mae adolygiad cyflym o'r llenyddiaeth bresennol sy'n edrych ar effeithiolrwydd mesurau rhoi'r gorau i smygu a dargedwyd yn benodol at bobl sy'n byw gydag iselder a/neu orbryder, wedi dangos darlun cymysg.
Mae nifer yr achosion o ganser yng Nghymru yn dangos arwyddion o adfer i lefelau cyn y pandemig o ran canfod, gyda gwelliannau nodedig yn y cyfraddau canfod ar gyfer canser y coluddyn a chanser y fron mewn menywod rhwng 2020 a 2021.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi Dangosfwrdd Clystyrau Gofal Sylfaenol newydd, sy'n cynnwys amrywiaeth o ddangosyddion am y 64 o glystyrau gofal sylfaenol yng Nghymru, i'w helpu i gynllunio a llywio eu blaenoriaethau a mynd i'r afael ag unrhyw anghydraddoldebau yn eu clystyrau.
Mae dadansoddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos, ar gyfartaledd, bod 3,845 o farwolaethau yng Nghymru yn 2022 oherwydd smygu yng Nghymru bob blwyddyn rhwng 2020 a 2022: roedd mwy nag un o bob deg o'r holl farwolaethau ymhlith y rhai dros 35 oed.
Gyda dechrau'r flwyddyn academaidd newydd yn prysur agosáu, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog myfyrwyr prifysgol newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd i sicrhau eu bod wedi cael eu holl frechiadau yn ystod plentyndod.
Iechyd Cyhoeddus Cymru yw sefydliad iechyd y cyhoedd yng Nghymru ac mae’n Ymddiriedolaeth y GIG. Mae'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn gyfle i ymgysylltu â ni wrth adolygu cyflawniadau 2023/24 ar draws ein rolau a'n cyfrifoldebau niferus, ac wrth drafod y cyfleoedd a'r heriau sydd o'n blaenau.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynnal asesiad risg iechyd pellach o ddata ansawdd aer a gasglwyd yng ngorsaf monitro Ysgol Spittal, gan gwmpasu'r cyfnod rhwng 1 Gorffennaf 2024 a 26 Awst 2024.