Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogi Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles mewn Ysgolion

Ar y dudalen hon

 

Mae addysg yng Nghymru yn destun diwygio sylweddol, gan gynnwys Cwricwlwm i Gymru sydd wedi’i arwain gan bwrpas ac â ffocws ar broses, a gaiff ei gyflwyno gan ddechrau yn 2022. Mae hyn yn cynnwys Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles. O 31 Ionawr 2025 ymlaen, mae canllawiau fframwaith Cwricwlwm Cymru hefyd wedi cael eu diweddaru ymhellach.  

Mae Iechyd a Lles yn faes eang a deinamig o’r cwricwlwm. Fodd bynnag, nid yw’r arbenigedd i weithredu’r maes (o’r dylunio i’r cyflwyno) o reidrwydd eisoes wedi’i wreiddio mewn ysgolion. Mewn ymateb i hyn, mae tîm Lleoliadau Addysgol Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi sefydlu Prosiect Cwricwlwm Iechyd a Lles â therfyn amser a fydd yn dod â’r sectorau Iechyd ac Addysg ynghyd. Y bwriad yw cyd-greu pecynnau cymorth cwricwlwm ac adnoddau i ysgolion ddatblygu a chyflwyno themâu iechyd a lles allweddol fel rhan o’r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles newydd.

Nod y prosiect cwricwlwm yw:

  • Cefnogi ysgolion i ddatblygu a chyflwyno eu Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles yn effeithiol
  • Rhoi gwybodaeth iechyd a lles ar sail tystiolaeth i ysgolion
  • Rhoi mynediad i ysgolion at adnoddau iechyd a lles y gellir eu haddasu o ansawdd uchel i gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r cwricwlwm yn unol ag ethos y Cwricwlwm i Gymru.

Pecynnau Cymorth ac Adnoddau Iechyd a Lles

Mae tîm y prosiect, ochr yn ochr â phartneriaid ym meysydd iechyd ac addysg, wedi nodi pedair thema i ffocysu arnynt i ddechrau ac maent yn llunio pecynnau cymorth ac adnoddau ar y cyd i gefnogi dysgu.

Mae'r pecynnau cymorth cwricwlwm wedi'u datblygu gan ddilyn egwyddorion cynllunio'r cwricwlwm ac yn nodi'r hyn sy'n bwysig i'r dysgwr ac ar ei gyfer. Mae negeseuon allweddol yn nodi'r hyn yr ydym am i ddysgwyr ei ddeall (a pham), ei ddangos a'i werthfawrogi. Mae’r pecynnau cymorth hefyd yn nodi cyfleoedd ar gyfer dysgu trosglwyddadwy ar draws themâu ac o fewn pynciau ehangach a’r cysyniadau allweddol sydd wedi’u cynnwys yn y meysydd Iechyd a Lles yn ogystal â Meysydd Dysgu a Phrofiad eraill.

Wrth i'r pecynnau cymorth cwricwlwm ddatblygu, cânt eu cyhoeddi ar y wefan hon. Mae pob pecyn cymorth yn dilyn y fformat canlynol:  

  1. Arweiniad i athrawon
  2. Banciau Gwybodaeth
  3. Gweithgareddau dosbarth

Mae'r holl adnoddau wedi'u cynllunio i'w defnyddio'n hyblyg a dylid eu haddasu i ddiwallu anghenion dysgwyr a nodwyd o fewn cyd-destun yr ysgol. Dylai ymarferwyr ystyried a yw cynnwys y pecyn cymorth a’r adnoddau yn briodol o ran datblygiad y dysgwr.

Thema Un

Sylweddau a Chaethiwed - Canolbwyntio ar Fepio

Noder:
Newidiodd deddfwriaeth ynghylch fêps tafladwy ledled y DU ar 1 Mehefin 2025. Bydd ein hadnoddau yn cael eu diweddaru maes o law i adlewyrchu'r newidiadau hyn.

I ddarganfod mwy am y gwaharddiad diweddar ar fêps untro, ewch i:
Deall y Gwaharddiad ar Fêps Tafladwy – Pam Mae'n Bwysig - Helpa Fi i Stopio neu Gwaharddiad ar fêps untro | LLYW.CYMRU

Cyfres Gweminarau Tybaco, Nicotin a Fêps yng Nghymru

 

I gefnogi'r gwaith o weithredu'r pecyn cymorth cwricwlwm 'Sylweddau a Dibyniaeth – Ffocws ar Fêps', ac i gael gwybod mwy am dirwedd bresennol y defnydd o dybaco, nicotin a fêps ymhlith plant a phobl ifanc yng Nghymru, gwyliwch ein Cyfres Gweminarau Tybaco, Nicotin a Fêps yng Nghymru ddiweddaraf.  Mae'r weminar wedi'i dylunio ar gyfer athrawon, staff ysgolion, gweithwyr ieuenctid ac unrhyw un arall sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ac yn eu cefnogi.

Cydnabyddiaethau: Hoffem ddiolch i'r ysgolion canlynol am eu cymorth a'u cefnogaeth wrth ddatblygu'r pecyn cymorth hwn.

Whitestone Primary School

Pontypridd High School

Eastern High School

Raglan CiW VC Primary School

Pontypridd High School

Ysgol Bro Gwaun

Pembrokeshire Learning Centre and the Behaviour Service

Ysgol Trimsaran

 

Thema Dau

Ymddygiad sy'n hybu iechyd – Bwrw Golwg ar fwyd a maeth

Mae'r pecyn cymorth hwn yn cael ei adolygu a'i ddiweddaru ar hyn o bryd ac fe fydd ar gael yn fuan.

 

Thema Tri

Ymddygiad sy'n hybu iechyd – Bwrw Golwg ar gwsg

Cydnabyddiaethau: Hoffem ddiolch i'r ysgolion canlynol am eu cymorth a'u cefnogaeth wrth ddatblygu'r pecyn cymorth hwn.

Ysgol Gelli Aur

Ysgol Gyfun Aberdaugleddau

Ysgol Gynradd Waldo Williams

Tavernspite and Templeton Federation  

Ysgol Gymunedol Brynconin & Maenclochog

Ysgol Gymuned Neyland

Pembrokeshire Learning Centre

Ysgol Gynradd Y Garn