Neidio i'r prif gynnwy

Imiwneiddio a Brechlynnau

Mae Brechu yn achub bywydau. Brechu yw'r peth pwysicaf y gallwn ei wneud i amddiffyn ein hunain a'n plant rhag salwch. Maent yn atal hyd at 3 miliwn o farwolaethau ledled y byd bob blwyddyn.

 

Fideo brechu a chanllaw Hawdd ei Ddarllen i gefnogi pobl ag anabledd dysgu

Cafodd y fideo newydd yma a’r canllaw Hawdd ei Ddarllen eu gwneud gyda phobl ag anabledd dysgu.

Mae’r fideo a’r canllaw yn seiliedig ar wybodaeth a ddysgwyd gennym gan bobl ag anabledd dysgu, eu gofalwyr, a sefydliadau cefnogi.

Mae'r fideo’n dangos person a'i ofalwr yn ymweld â'u meddygfa i gael brechiad y ffliw. Mae’n rhoi enghreifftiau o’r addasiadau rhesymol y gallwch chi ofyn amdanyn nhw i’ch cefnogi i fynd i’ch apwyntiad, fel apwyntiad dwbl, a help gyda gorbryder am nodwyddau.

Mae’r canllaw Hawdd ei Ddarllen wedi’i rannu’n 2 ran.

  • Mae Rhan 1 yn rhoi gwybodaeth am frechiadau, pam eu bod yn bwysig a sut maen nhw’n gweithio.
  • Mae Rhan 2 yn disgrifio’r broses o gael brechiad, gwybodaeth am sgîl-effeithiau cyffredin ac enghreifftiau o addasiadau rhesymol.

Cliciwch yma i ddarllen y canllaw Hawdd ei Ddeall rhan 1 - Ynglŷn â brechiadau.

Cliciwch yma i ddarllen y canllaw Hawdd ei Ddeall rhan 2 – Cael brechiad.

 

Mae ymwybyddiaeth o bwysigrwydd brechu wedi dod i'r amlwg yn sgîl pandemig COVID-19.

 

Plant

Mae'n bwysig bod pob plentyn a baban yn cael eu himiwneiddio'n llawn i'w diogelu rhag afiechydon difrifol posibl. Mae salwch a fu unwaith yn gyffredin, fel difftheria a thetanws, bellach yn brin yn y DU oherwydd imiwneiddio. Ond er bod polio wedi’i ddileu yn Ewrop, nid yw bygythiad afiechydon eraill, fel y frech goch a llid yr ymennydd, wedi diflannu yn y DU heddiw.

Dylai rhieni sydd â phryderon neu ymholiadau am unrhyw agwedd ar imiwneiddio eu plentyn eu trafod gyda'u Meddyg Teulu, Ymwelydd Iechyd, Nyrs eu Meddygfa neu’r Nyrs Ysgol.
 

Oedolion

Mae imiwneiddio yn ddigwyddiad gydol oes ac mae oedolion hefyd yn elwa o gael eu himiwneiddio. Mae'n bwysig bod oedolion wedi cael eu holl frechlynnau rheolaidd mewn plentyndod.

Bydd angen imiwneiddio ychwanegol ar rai pobl gan eu bod mewn mwy o berygl oherwydd eu hoedran neu gyflwr iechyd, neu i ddiogelu eu hiechyd yn y gwaith neu wrth deithio. Ar gyfer y rhai sydd mewn mwy o berygl o gymhlethdodau’r ffliw, argymhellir y brechlyn ffliw blynyddol. Mae brechlyn niwmococol yn cael ei argymell hefyd i helpu i ddiogelu pobl sydd mewn mwy o berygl o gael afiechyd niwmococol.

Rydym hefyd wedi wynebu’r heriau digynsail o gyflwyno un o’r rhaglenni brechu cyflymaf a mwyaf cynhwysfawr wrth ddarparu brechlynnau COVID-19 ac mae’n bwysig bod pawb sy’n gymwys i gael eu brechu yn gwneud hynny pan gânt eu gwahodd.
 

Cefnogi brechu yng Nghymru

Os oes gennych chi ymholiad imiwneiddio, cysylltwch â thîm eich bwrdd iechyd yn y lle cyntaf. Fe welwch eu manylion yma: Cysylltiadau Brechiadau - Byrddau Iechyd Cymru.

Sefydlwyd Rhaglen Afiechydon Ataliadwy Trwy Frechu (VPDP) Iechyd Cyhoeddus Cymru ym mis Gorffennaf 2005. Mae’n denu cefnogaeth gan amrywiaeth o bartneriaid presennol ar draws GIG Cymru a thu hwnt i gefnogi dull cenedlaethol o imiwneiddio a brechu.     
 
I gysylltu â thîm y Rhaglen Afiechydon Ataliadwy Trwy Frechu yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, anfonwch e-bost atom ni ar: phw.vaccines@wales.nhs.uk