Neidio i'r prif gynnwy

Brechlyn cyfun niwmococol (PCV) Niwmococol (13 seroteip)

Rhoddir y brechlyn niwmococol cyfun (a elwir yn PCV) i blant fel rhan o'r rhaglen frechu reolaidd.

Ar y dudalen hon

 

Cefndir

Haint niwmococol yw un o achosion mwyaf cyffredin llid yr ymennydd (haint ar leinin yr ymennydd). Mae hefyd yn achosi heintiau clust (otitis media), niwmonia (haint ar yr ysgyfaint) a rhai afiechydon difrifol eraill.

Rhai plant yn cario bacteria niwmococol yng nghefn eu trwyn a'u gwddw. Maent yn trosglwyddo'r bacteria hyn yn hawdd i eraill drwy beswch, tisian a chyswllt agos.

Y brechlyn cyfun niwmococol (a elwir yn PCV) sy'n cael ei roi i blant fel rhan o'r rhaglen imiwneiddio arferol. Fe'i rhoddir hefyd i rai pobl sydd mewn perygl oherwydd bod ganddynt gyflyrau meddygol sylfaenol. Mae brechu yn rhoi amddiffyniad da rhag haint niwmococol.

Nid yw'r brechlyn yn amddiffyn rhag pob math o haint niwmococol ac nid yw'n amddiffyn rhag llid yr ymennydd a achosir gan facteria neu feirysau eraill.

 

Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn

Mae dau fath gwahanol o frechlyn niwmococol.

Brechlyn cyfun niwmococol (PCV)

Cynigir y brechlyn PCV i bob plentyn dan ddwy flwydd oed fel rhan o raglen imiwneiddio rheolaidd i blant y GIG. Efallai y bydd angen y brechlyn hwn ar rai pobl â chyflyrau meddygol sylfaenol hefyd. Mae'r dudalen hon yn ymdrin â'r brechlyn PCV.

 

Brechiadau rheolaidd

Cynigir brechiadau PCV rheolaidd i fabanod sy’n:

  • 16 wythnos oed (gweler isod), fel rhan o'r rhaglen imiwneiddio i blant, a
  • blwydd oed, ar neu ar ôl eu pen-blwydd cyntaf.

Am ragor o wybodaeth ynghylch pryd y cynigir y dos cyntaf (16 wythnos), ewch i Newidiadau i'r amserlen imiwneiddio i blant.

 

Brechiadau i'r rhai sydd mewn perygl

Mae rhai cyflyrau meddygol yn cynyddu'r risg o gael heintiau difrifol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • heb fod â dueg
  • bod â dueg nad yw'n gweithio'n dda iawn (sy’n cynnwys o ganlyniad i fod â chlefyd y crymangelloedd a chlefyd seliag)
  • problemau gyda'ch system imiwnedd (anhwylderau ategol), a
  • system imiwnedd wan iawn.

Gellir cynnig brechiadau i bobl â chyflyrau penodol yn dibynnu ar yr oedran y cânt eu diagnosio, eu cyflwr meddygol a brechiadau blaenorol.

Os oes gennych gwestiynau neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y brechlyn PCV, siaradwch â'ch meddyg teulu, nyrs eich practis meddyg teulu, ymwelydd iechyd neu’ch nyrs ysgol.

 

Brechlyn polysacarid niwmococol (PPV)

Cynigir y brechlyn PPV i bobl 65 oed a hŷn ac i bobl sy'n wynebu risg uchel oherwydd cyflyrau iechyd hirdymor. Mae gwybodaeth am y brechlyn PPV ar gael ar dudalen Brechlyn polysacarid niwmococol (PPV) (23 seroteipiau).

 

Ynglŷn â'r brechlyn PCV

Rhoddir Prevenar 13 (PCV13) i fabanod yng Nghymru fel rhan o raglen frechu rheolaidd y GIG ac i rai pobl sydd â chyflyrau meddygol sylfaenol.

Mae'r brechlyn wedi'i anactifadu (nid yw'n cynnwys germau byw). Fel arfer, bydd babanod yn cael y brechlyn fel pigiad yn rhan uchaf eu coesau (clun) neu ran uchaf eu breichiau. Fel arfer, bydd plant hŷn ac oedolion yn ei gael yn rhan uchaf eu breichiau.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y brechlyn hwn drwy ddarllen y daflen gwybodaeth i gleifion yn:

Brechu yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal heintiau difrifol ar yr ysgyfaint (niwmonia), llid yr ymennydd a gwenwyn gwaed (septisemia) a achosir gan haint niwmococol. Nid oes unrhyw frechlyn 100% yn effeithiol, felly mae'n dal yn bwysig gwybod arwyddion a symptomau niwmonia, llid yr ymennydd a sepsis, hyd yn oed os ydych chi neu eich plentyn wedi cael eich brechu.  

Am ragor o wybodaeth am niwmonia, llid yr ymennydd a septisemia, ewch i: 

www.meningitisnow.org (safle allanol, Saesneg yn unig) 

GIG 111 Cymru - Gwyddoniadur : Niwmonia (safle allanol)

 

Sgîl-effeithiau PCV13

Fel y rhan fwyaf o frechlynnau, gall y brechlyn niwmococol achosi sgil-effeithiau ysgafn weithiau, gan gynnwys:

  • twymyn ysgafn
  • cochni yn safle’r pigiad, a
  • chaledwch neu chwydd yn safle'r pigiad.

Mae adweithiau eraill yn anghyffredin neu'n brin. Am ragor o wybodaeth am y sgil-effeithiau hyn, gweler:

Os ydych chi'n pryderu am symptomau, cysylltwch â GIG 111 Cymru - Hafan (safle allanol) drwy ffonio 111. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol.

Dylech roi gwybod am sgîl-effeithiau posibl brechlynnau a meddyginiaethau drwy’r Cynllun Cerdyn Melyn. Gallwch wneud hyn ar-lein yn yellowcard.mhra.gov.uk neu drwy ffonio llinell gymorth y cynllun Cerdyn Melyn ar 0800 731 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm).  

 

Gwybodaeth i'r cyhoedd