Neidio i'r prif gynnwy

Curo Feirysau'r Gaeaf

Mae hi'r adeg yma o'r flwyddyn eto. Tymor y nosweithiau hir, siwmperi cynnes, prynu anrhegion a dod at ein gilydd i ddathlu'r Nadolig.

Mae'n adeg o'r flwyddyn hefyd pan fydd salwch yn lledaenu'n gyflym ac yn hawdd. Gall feirysau cyffredin fel annwyd a ffliw, norofeirws, RSV a COVID-19 gael effaith fawr ar ein bywydau a tharfu ar ein cynlluniau.

Dyna pam ei bod mor bwysig ein bod i gyd yn gwneud yr hyn y gallwn i gadw ein hunain a'n hanwyliaid yn ddiogel.

Dyma rai camau gweithredu syml y gallwch eu cymryd i atal lledaeniad salwch y gaeaf hwn. Efallai eu bod yn ymddangos yn amlwg, ond mae tystiolaeth yn dangos eu bod yn gweithio.

Golchwch eich dwylo'n rheolaidd

Golchi'ch dwylo'n rheolaidd yw un o'r ffyrdd gorau o amddiffyn eich hun yn erbyn salwch. Dylid golchi dwylo â sebon a dŵr am o leiaf 30 eiliad.

Pan fydd rhywun yn peswch neu'n tisian, gall germau fynd ar wrthrychau ac, os byddwn yn eu cyffwrdd, gallant adael germau ar ein dwylo. Os na fyddant yn cael eu golchi i ffwrdd, gall germau fynd i mewn i'n corff drwy'r llygaid, trwyn, a'r geg, gan ein gwneud yn sâl. Gallant gael eu trosglwyddo i eraill hefyd.

Gall golchi dwylo'n rheolaidd atal un o bob pump o salwch anadlol fel annwyd a ffliw. Ond mae'n bwysig golchi eich dwylo'n iawn.

Dilynwch y pum cam hyn wrth olchi eich dwylo: 

  1. Gwlychwch eich dwylo â dŵr a rhoi sebon arnynt
  2. Rhwbiwch eich dwylo gyda'i gilydd
  3. Sgwriwch bob rhan o'ch dwylo: eich cledrau, dyrnau a blaenau'ch bysedd, a rhwng eich bysedd
  4. Golchwch eich dwylo'n dda â dŵr.
  5. Sychwch eich dwylo 

I atal germau rhag lledaenu, mae'n arbennig o bwysig golchi eich dwylo

  • Ar ôl defnyddio'r toiled
  • Ar ôl chwythu eich trwyn, peswch neu disian
  • Ar ôl defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus
  • Ar ôl dod adref o siopa
  • Cyn ac ar ôl bwyta neu drafod bwyd
  • Ar ôl cyffwrdd ag anifeiliaid neu anifeiliaid anwes

Os nad oes gennych fynediad uniongyrchol at sebon a dŵr yna defnyddiwch hylif diheintio dwylo ag alcohol. Mae hylif diheintio dwylo yn ffordd effeithiol o atal lledaeniad y rhan fwyaf o feirysau, os nad pob un.

Ymarfer hylendid da

 Gall y camau syml hyn helpu i atal lledaeniad germau:

  • Cuddiwch eich ceg a'ch trwyn â hances bapur pan fyddwch yn peswch neu'n tisian
  • Taflwch eich hancesi papur wedi'u defnyddio i'r bin
  • Os nad oes gennych hances bapur, pesychwch neu disian i mewn i'ch penelin, nid eich dwylo
  • Glanhewch arwynebau sy'n cael eu cyffwrdd yn rheolaidd
  • Osgowch gyffwrdd â'ch wyneb

Gadewch awyr iach i mewn

Wrth gyfarfod dan do, ceisiwch adael rhywfaint o awyr iach i mewn. 

Pan fydd rhywun â haint feirysol fel ffliw neu COVID-19 yn anadlu, siarad, pesychu neu'n tisian, maent yn rhyddhau gronynnau bach sy'n cynnwys y feirws sy'n achosi'r haint. 

Gall y gronynnau hyn cael eu hanadlu i mewn neu gallant fynd i mewn i'r corff drwy'r llygaid, y trwyn neu'r geg. Gall y gronynnau hefyd lanio ar arwynebau a chael eu trosglwyddo o berson i berson dwy gyffwrdd.

Gall gadael awyr iach i mewn helpu i gael gwared ar hen awr sy'n cynnwys gronynnau feirws ac atal lledaeniad salwch cyffredin y gaeaf. 

Arhoswch gartref os ydych yn sâl

Er ei bod yn demtasiwn mynd allan hyd yn oed os ydych yn teimlo'n sâl, gallech fod yn lledaenu'r salwch i'ch ffrindiau a theulu. Mae aros gartref yn helpu i atal y salwch.

Cofiwch gael eich brechlynnau i gyd 

Brechu yw'r peth pwysicaf y gallwn ei wneud i amddiffyn ein hunain a'n plant rhag afiechyd.  Gallwch gael rhagor o wybodaeth am frechiadau gan gynnwys ffliw a COVID-19 yma.

Helpwch i ledaenu'r neges am guro feirysau'r gaeaf drwy rannu'r cynnwys sydd ar:

Adnoddau Defnyddiol