Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd y Llygaid

Y llygad yw organ mwyaf cymhleth y corff, ar ôl yr ymennydd. Mae’r llygaid yn gweithio o'r eiliad y byddwch yn eu hagor yn y bore nes i chi eu cau yn y nos, ac maent yn trosglwyddo cannoedd ar filoedd o negeseuon i’r ymennydd drwy gydol y dydd.

Mae'n hawdd esgeuluso eich llygaid oherwydd anaml y maent yn brifo pan fydd problem. Yn ogystal â dweud wrthych os bydd angen sbectol newydd arnoch neu os bydd angen i chi newid eich presgripsiwn, mae prawf llygad yn archwiliad pwysig o’ch llygaid. Gall prawf llygad amlygu llawer o broblemau iechyd cyffredinol ac arwyddion cynnar o gyflyrau’r llygaid cyn bod unrhyw symptomau - a gellir trin llawer o’r rhain os cânt eu canfod yn ddigon cynnar.

Gyda rhai cyflyrau sy'n rhoi eich golwg yn y fantol, megis glawcoma, nid oes unrhyw symptomau o gwbl a gall y cyflwr arwain at golli rhywfaint o’ch golwg cyn i chi sylwi ar wahaniaeth. Mae modd atal tua 50 y cant o achosion o golli golwg os cânt eu darganfod yn ddigon cynnar.

Beth yw maint y broblem?

Mae bron i ddwy filiwn o bobl yn y DU yn byw gyda nam ar eu golwg, sef un person o bob tri deg.

Mae Colli eu golwg yn effeithio ar bobl o bob oed, ond wrth i ni fynd yn hŷn rydym yn fwyfwy tebygol o golli ein golwg.

  • Mae 1 o bob 5 o bobl 75 oed a throsodd wedi colli eu golwg
  • Mae 1 o bob 2 o bobl 90 oed a hŷn wedi colli eu golwg
  • Mae bron ddwy ran o dair o bobl sydd wedi colli eu golwg yn fenywod
  • Mae pobl o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn wynebu mwy o risg o ddioddef o rai o’r prif gyflyrau sy’n achosi pobl i golli eu golwg
  • Amcangyfrifir bod gan gynifer â thri chwarter y bobl ag anableddau dysgu naill ai nam plygiannol neu eu bod yn ddall neu'n rhannol ddall

 Bydd nifer y bobl yn y DU sydd wedi colli eu golwg yn cynyddu'n sylweddol yn y dyfodol. Wrth i ni fynd yn hŷn rydym yn fwyfwy tebygol o golli ein golwg, ac mae poblogaeth y DU yn heneiddio. Yn ogystal, mae nifer cynyddol o ffactorau sylfaenol allweddol sy’n peri i bobl golli eu golwg, fel gordewdra a diabetes. Mae hyn yn golygu, oni fyddwn yn gweithredu, y bydd nifer y bobl â phroblemau golwg yn y DU yn debygol o gynyddu’n sylweddol dros y 25 mlynedd nesaf.

Erbyn 2020 rhagwelir y bydd nifer y bobl sydd wedi colli eu golwg yn codi i dros 2,250,000. Erbyn 2050, bydd nifer y bobl sydd wedi colli eu golwg yn y DU yn dyblu i bron i bedair miliwn.

Yn 2008 costiodd colli golwg o leiaf £6.5 biliwn, ac mae hyn yn debygol o gynyddu wrth i’r nifer sydd wedi colli eu golwg gynyddu. Nid yw'r ffigur hwn yn cynnwys y gost o golli golwg ymysg plant.

Mae'r gost yn cynnwys: 

  • £2.14 biliwn mewn costau gofal iechyd uniongyrchol, megis clinigau llygaid, presgripsiynau a llawdriniaethau
  • £4.34 mewn costau anuniongyrchol, megis costau gofalwyr di-dâl a chyfraddau cyflogaeth is

Beth allwch chi ei wneud?

Mae ymchwil yn awgrymu y bydd y pwyntiau canlynol yn cadw eich llygaid yn iach ac yn lleihau’r risg o ddatblygu cyflwr llygaid i’r eithaf.

  1. Profion llygaid rheolaidd:  Dylai pawb gael prawf llygaid o leiaf unwaith bob dwy flynedd, hyd yn oed os na fydd unrhyw newid yn eich golwg. Yn aml mae archwiliad  llygaid yn gallu darganfod yr arwyddion cyntaf o gyflwr llygaid cyn i chi sylwi ar unrhyw newidiadau yn eich golwg. Gall hyn olygu y gallwch gael triniaeth hanfodol ar yr amser cywir, a allai arbed eich golwg
     
  2. Rhoi'r gorau i ysmygu:  Gall ysmygu ddyblu'r risg o ddirywiad macwlaidd sy'n gysylltiedig ag oedran, sef y prif ffactor sy’n gyfrifol am golli golwg yn y DU. Gallwch siarad â'ch meddyg teulu am roi'r gorau i ysmygu neu gallwch gael rhagor o wybodaeth ar Helpa Fi i Stopio neu drwy ffonio 0800 085 2219
     
  3. Bwyta'n iach a chadw llygad ar eich pwysau:  Gall bwyta deiet sy’n isel mewn braster dirlawn ac sy'n llawn llysiau deiliog gwyrdd fel brocoli a sbinaets helpu i’ch diogelu rhag cataractau a dirywiad macwlaidd sy’n gysylltiedig ag oedran. Gall orennau, ffrwythau ciwi, cnau, hadau a physgod olewog hefyd helpu i atal ac arafu rhai cyflyrau’r llygaid. Nid yw cymryd atchwanegiadau yn disodli deiet iach. Mae'n bwysig bod eich pwysau’n iach. Gall gordewdra gynyddu'r risg o ddiabetes, a allai yn ei dro arwain at golli eich golwg. Mae rhagor o wybodaeth am faeth a gordewdra ar gael yn http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/tudalen/52186
     
  4. Cysgodwch eich llygaid rhag yr haul:  Gall pelydrau UVA ac UVB golau’r haul niweidio eich llygaid a gall gynyddu'r risg o gataractau a dirywiad macwlaidd y gysylltiedig ag oedran. Bydd gwisgo sbectol haul, sbectol neu lensys cyffwrdd â hidlydd UV yn amddiffyn eich llygaid. Gwnewch yn siŵr eich bod yn prynu sbectol haul sydd â marc CE arni neu Safon Brydeinig 1836:1997 BSEN
     
  5. Diogelwch yn gyntaf:  Mae DIY yn achosi miloedd o anafiadau sy'n gysylltiedig â’r llygaid bob blwyddyn. Gwisgwch gogls diogelwch bob amser (i amddiffyn eich llygaid rhag malurion a gronynnau mân. Mae chwaraeon, yn enwedig chwaraeon raced, hefyd yn achosi llawer o anafiadau’n gysylltiedig â’r llygaid bob blwyddyn. Bydd buddsoddi mewn pâr da o gogls chwaraeon amddiffynnol yn helpu i atal niwed difrifol i'ch llygaid
     
  6. Gorffwyswch eich llygaid yn rheolaidd:  Gall defnyddio sgrin cyfrifiadur am gyfnodau hir fod yn araf straenio eich llygaid a’u gwneud yn flinedig. Gall seibiannau rheolaidd o’r cyfrifiadur atal blinder llygaid yn ogystal â lleihau'r tebygolrwydd o ddatblygu cyflyrau llygaid penodol. Mae amrantu’n rheolaidd hefyd yn rhoi seibiant byr i’r llygaid ac yn eu cadw’n llaith gan eu hatal rhag mynd yn sych ac yn flinedig
     
  7. Edrychwch ar hanes eich teulu:  Mae rhai clefydau llygaid yn glefydau etifeddol, felly mae'n bwysig gwybod beth yw hanes eich teulu o ran iechyd llygaid. Mae risg fawr y  bydd y rhai sydd â hanes o gyflyrau fel cataractau, dirywiad macwlaidd sy'n gysylltiedig ag oedran a retinopathi diabetig yn datblygu’r clefydau hyn ar ryw adeg, felly mae canfod yr arwyddion yn gynnar drwy gael archwiliadau llygaid rheolaidd yn hanfodol. Mae llawer o'r anhwylderau hyn yn gysylltiedig ag oedran ac mae iechyd eich llygaid yn fwy tebygol o waethygu wrth i chi fynd yn hŷn

Beth sy'n cael ei wneud i reoli’r effaith /y broblem?

Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu Menter Gofal Llygaid Cymru (WECI) i amddiffyn golwg drwy ganfod achosion o glefyd y llygaid yn gyflym a rhoi cymorth i'r rhai sydd â golwg gwan ac y mae eu golwg yn annhebygol o wella.

Mae pedair elfen i'r cynllun:

Hefyd, mae rhaglen Vision 2020 Sefydliad Iechyd y Byd i ddileu dallineb y gellir ei atal erbyn 2020 yn darparu cyd-destun strategol ar gyfer datblygu'r gwasanaeth.

Yn y DU, mae rhanddeiliaid wedi datblygu Strategaeth Golwg y DU a ysbrydolwyd gan fenter y WHO, a chymeradwyodd y cyn Ysgrifennydd Gwladol, Alan Johnson, amcanion y strategaeth honno pan gafodd ei lansio. Mae'r Adran Iechyd wedi ymrwymo i gefnogi amcanion y Strategaeth Golwg y DU yng nghyd-destun gwasanaeth a gomisiynir yn lleol, drwy arweiniad ar arfer gorau.

Nod Strategaeth Golwg y DU yw:

  • Gwella iechyd llygaid pobl y DU
  • Dileu achosion o golli golwg y gellir eu hosgoi a darparu cymorth rhagorol i'r rhai sydd â nam ar eu golwg
  • Gwella cynhwysiant, cyfranogiad ac annibyniaeth pobl ddall a rhannol ddall

Yng Nghymru, cynhyrchodd grŵp ymgynghorol o weithwyr proffesiynol sy'n gweithio ar draws y sector cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector 'Gynllun Gweithredu Strategaeth Golwg Cymru 2010-2014' i gydgysylltu ymateb Cymru i gyflawni tair blaenoriaeth Strategaeth Golwg y DU:

  • Gwella iechyd y llygaid
  • Dileu achosion o golli golwg y gellir eu hosgoi a darparu cymorth rhagorol i bobl sydd â nam ar eu golwg
  • Cynhwysiant, cyfranogiad ac annibyniaeth i bobl sydd wedi colli eu golwg

Mae rhagor o wybodaeth am iechyd y cyhoedd optometrig ar gael yn:  http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/tudalen/49075

Ffynonellau:

Sefydliad Iechyd y Byd - www.who.int/en
Gofal Llygaid Cymru - www.eyecarewales.nhs.uk
RNIB Cymru - www.rnib.org.uk/cymru
Your Eye Guide - www.youreyeguide.co.uk