Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Cymru/Wales

Rydym yn gweithio ar ran mwy na 111,000 o bobl yng Nghymru sy’n byw gyda cholled golwg.

Mae ein gwasanaethau yn darparu atebion ymarferol i heriau bob dydd. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau ledled Cymru i ddarparu gwasanaethau lleol.

RNIB Cymru yw sefydliad colled golwg mwyaf Cymru. Rydym yn darparu ystod eang o wasanaethau a chymorth i bobl ddall ac â golwg rhannol ledled Cymru, yn ogystal ag ymgyrchu dros wella gwasanaethau ac atal achosion o golled golwg y gellir eu hosgoi.