Neidio i'r prif gynnwy

Gorbwysau a Gordewdra

Mae pwysau gormodol a gordewdra yn dod yn fwy cyffredin yng Nghymru ac, ar yr un pryd, mae ein gallu cyfunol i gydnabod beth yw pwysau iach yn lleihau.

Mae hwn yn bryder sylweddol o ran iechyd cyhoeddus, gan y gall cario pwysau gormodol gael effaith sylweddol ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl unigolyn.

Beth yw bod dros bwysau a gordewdra?

Yn syml, mae bod dros bwysau neu'n ordew yn digwydd o ganlyniad i anghydbwysedd egni. Mae'n digwydd pan fydd swm yr egni rydym yn ei fwyta mewn bwyd yn llawer mwy na'r egni rydym yn ei ddefnyddio yn ein bywydau bob dydd.

Felly, mae bod dros bwysau neu'n ordew yn disgrifio rhywun sy'n cario braster gormodol yn y corff, sy'n arwain at fagu pwysau. Y dull mwyaf cyffredin o fesur gordewdra yw'r mynegai crynswth corfforol (BMI) – pwysau mewn cilogramau wedi'u rhannu â thaldra mewn metrau sgwâr. Mae'r BMI yn ddangosydd da o lefelau braster y corff.

Mae'r categorïau BMI fel a ganlyn:

  • o dan bwysau <18.5
  • pwysau iach 18.5 i <25
  • dros bwysau 25 i <30
  • gordew 30 i <40
  • gordewdra difrifol neu afiachus 40+.

Mae rhai dulliau llai cyffredin eraill o fesur gordewdra, gan gynnwys y gymhareb canol y corff i'r glun, maint canol y corff a braster yn yr abdomen. Gellir darganfod mwy o wybodaeth wrth Galw Iechyd Cymru: Gordewdra (agor yn ffenestr newydd).

Pam mae gordewdra yn broblem yng Nghymru?

Mae gordewdra yn dod yn fwy cyffredin yng Nghymru, fel y mae'n rhyngwladol, ac mae'r costau gofal iechyd sy'n gysylltiedig â thrin gordewdra yn uchel ac yn parhau i godi.

Mae bod dros bwysau neu'n ordew yn cynyddu'r risg o gael amrywiaeth eang o glefydau cronig, diabetes math 2 yn enwedig, gorbwysedd, clefyd cardiofasgwlaidd gan gynnwys strôc, yn ogystal â rhai mathau o ganser, clefyd yr arennau, apnoea cwsg rhwystrol, gowt, osteoarthritis, a chlefyd yr iau/afu, ymhlith eraill. Mae gordewdra hefyd yn gysylltiedig â hyd oes byrrach ac yn cyfrannu ato. Mae ein hadroddiad ar Iechyd a'i Benderfynyddion yn rhoi trosolwg o iechyd a llesiant Cymru.

Gall hefyd amharu ar lesiant unigolyn, ei ansawdd bywyd a'i allu i ennill arian. Deiet gwael a ffordd eisteddog o fyw yw'r prif achosion sy'n golygu bod pobl dros bwysau ac yn ordew. Gall rhai pobl hefyd brofi problemau seicolegol megis hunan-barch isel, hunanddelwedd wael a diffyg hyder.

Mae colli pwysau yn lleihau risg pob un o'r cyflyrau hyn mewn ffordd sy'n gysylltiedig â dognau: po fwyaf o bwysau sy'n cael eu colli, a pho agosaf at bwysau iach y mae'r unigolyn, y gorau fydd y canlyniad. Mae gordewdra yn arwain at nifer mwy o flynyddoedd yn byw gydag anabledd ac yn lleihau disgwyliad oes.

Faint o bobl sy'n ordew yng Nghymru?

Mae'r gyfran o blant ac oedolion yng Nghymru sydd â phwysau iach yn gostwng:

Rhwng 2003 a 2015, gwelwyd cynnydd o 4% mewn lefelau gordewdra ymhlith oedolion, a gostyngiad o 3.6% ymhlith y rheini â phwysau iach.

Mae tua 60% o oedolion (16+) dros bwysau neu'n ordew - gyda chwarter o'r rheini yn cael eu hystyried yn ordew.

Mae llawer o'n hymddygiadau eisteddog yn dechrau yn ystod plentyndod. Er enghraifft, mae llawer o blant ysgol gynradd ac ysgol uwchradd yn mynd i'r ysgol mewn car, gan osod patrymau ymddygiad sy'n cael eu hailadrodd drwy gydol eu bywydau

Beth sy'n gweithio o ran mynd i'r afael â gordewdra?

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynhyrchu cyfres o ddogfennau tystiolaeth er mwyn ategu strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach' Llywodraeth Cymru:

Mae gan Cymru gyd-destun polisi cefnogol iawn, gan gynnwys:

Rhaglenni

Lansiwyd Pob Plentyn yn 2017 er mwyn gwella iechyd a llesiant plant. Mae rhan o'i waith yn cynnwys 10 Cam i Bwysau Iach sy'n amlinellu'r ffactorau allweddol sy'n cynyddu tebygolrwydd plentyn o fod yn bwysau iach pan fydd yn dechrau yn yr ysgol. Mae'r cyngor yn canolbwyntio ar dair ystod oedran: cyn cenhedlu a beichiogrwydd, 0-2 oed a 2-5 oed.

Erbyn 2030, rydym am sicrhau bod gan Gymru amgylchedd a chymdeithas lle mai'r dewisiadau iach yw'r dewisiadau hawdd. Mae hyn yn golygu cynyddu gweithgarwch corfforol a hyrwyddo pwysau iach. Dysgwch fwy am sut rydym yn wireddu dyfodol iachach i Gymru.

Rydym hefyd yn defnyddio dulliau gweithredu cyffredinol ar gyfer lleoliadau arbennig megis:

  • Cynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru
  • Cynllun Cyn Ysgol Iach a Chynaliadwy
  • Cymru Iach ar Waith
  • Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif

Data gordwedra

Mae dogfennau technegol cynorthwyol ar gyfer data a'r tystiolaeth ar gael wrth Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae llawer o ddangosyddion yn y Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd sy'n ymwneud â gordewdra.

Mae'r Rhaglen Mesur Plant yn mesur taldra a phwysau plant ym mhob dosbarth derbyn yng Nghymru, ac yn cyhoeddi ei chanlyniadau bob blwyddyn.

Mae adroddiad Ymddygiad Iechyd mewn Plant Oedran Ysgol yng Nghymru hefyd yn cynnwys data ar ordewdra.

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn cynnwys data ar ordewdra.