Neidio i'r prif gynnwy

Teithio Llesol i'r Ysgol

Yng Nghymru, rydyn ni eisiau gwneud teithio llesol i’r ysgol yn ddewis naturiol ar gyfer siwrneiau byr.

Mae teithio llesol yn golygu gwneud siwrneiau bob dydd, fel teithio yn ôl ac ymlaen i’r ysgol, ar droed, mewn cadair olwyn, ar feic neu ar sgwter.

Mae cerdded/olwyno, beicio neu sgwtera, neu ddefnyddio ffyrdd llesol o deithio yn arwain at ystod eang o fanteision i chi, i’ch plant ac i’ch cymunedau.

Yn ogystal â gwella iechyd corfforol a meddyliol, gall roi hwb i hyder ac annibyniaeth ein plant, creu lle yn ein bywydau prysur i gysylltu â’n gilydd ac mae’n cael effeithiau cadarnhaol ar yr amgylchedd.

Gwahanol fathau o deithio llesol i’r ysgol

 

Manteision teithio llesol i’r ysgol

Mae llawer o fanteision i chi ac i’ch plant o ganlyniad i deithio llesol i’r ysgol. Dyma ambell un:

 

Gwyddom i rai teuluoedd nad yw cerdded/olwyno, sgwtera neu feicio yn bosibl ar y daith gyfan i’r ysgol oherwydd pellter, natur y ffyrdd neu efallai oedolyn sydd angen y car i deithio i’r gwaith. Felly, rydym hefyd yn hyrwyddo teithiau ‘parcio a theithio/cerdded/sgwtera’ i’r ysgol, sy’n golygu bod plentyn yn cael ei yrru fel rhan o’r daith i’r ysgol ac yna’n cerdded/olwyno, beicio neu sgwtio’r gweddill. Dyma rai awgrymiadau eraill:

• Dechreuwch gyda chamau bach: Os yw amser yn teimlo'n dynn, ymrwymwch i gerdded/olwyno un diwrnod yr wythnos neu gerdded/olwyno rhan o'r ffordd. Yna gallwch chi gynyddu hyn o wythnos i wythnos yn dibynnu ar yr hyn sy'n gweithio i chi a'ch teulu.

• Teithiau cerdded unffordd: Hyd yn oed os yw nad yw’r daith gerdded/olwyno i’r ysgol yn ymarferol, gall cerdded yn ôl adref fod yn opsiwn pan efallai y bydd gennych ychydig mwy o hyblygrwydd gyda’ch amser.

•Cymerwch eich tro gyda theuluoedd eraill: Cymerwch dro gyda ffrindiau i rannu'r daith gerdded/olwyno i'r ysgol ac oddi yno. Gall rhannu'r cyfrifoldeb hwn a gorfod ei wneud yn llai aml ei helpu i deimlo'n fwy hylaw. Mae hefyd yn llawer o hwyl i’r plant gerdded/olwyno gyda’u ffrindiau!

Bydd troi un daith yn unig yn daith llesol bob wythnos neu bythefnos yn dod â manteision i chi, eich plant a'ch cymunedau.

Cymerwch ran yn yr ymgyrch

Mae ein hymgyrch #TeithioLlesolYsgol yn annog rhagor o bobl i ddewis y llwybr llesol yn ôl ac ymlaen i’r ysgol.

Rydyn ni wedi gweithio gyda rhieni ledled Cymru i ddatblygu cyfres o ddeunyddiau ymgyrchu i ledaenu’r gair. Dros y misoedd nesaf, byddwch yn gweld y negeseuon hyn ar y cyfryngau cymdeithasol yn eich ardal leol. Byddem wrth ein bodd petaech chi’n cymryd rhan!

Ymunwch â’r sgwrs drwy rannu eich taith teithio llesol i’r ysgol gan ddefnyddio #TeithioLlesolYsgol

Rhagor o wybodaeth:

Mae’r ymgyrch #TeithioActifYsgol yn rhaglen sy’n cael ei rhedeg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hyrwyddo ffyrdd actif o deithio i’r ysgol - ar droed, cadair olwyn, ar feic neu ar sgwter.

Mae rhaglen gweithgarwch corfforol Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio’n agos gydag amrywiaeth o sefydliadau ac unigolion ledled Cymru i gynyddu cyfran y boblogaeth sy’n cadw’n heini. Mae’r partneriaid yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru, Trafnidiaeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Chwarae Cymru, timau iechyd y cyhoedd lleol, y trydydd sector megis Sustrans a phrifysgolion. 

Ein gweledigaeth ar gyfer Cymru yw creu cenedl ffyniannus lle mae gweithgarwch corfforol yn rhan o fywyd bob dydd. Rydyn ni’n rhagweld dyfodol lle bydd pob person, beth bynnag fo’i oedran, ei gefndir, neu ei allu, yn cofleidio ac yn mwynhau manteision ffordd egnïol o fyw.