Mae Adran Microbioleg Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu Gwasanaethau Microbioleg o labordai yn Aberystwyth, Caerdydd a De-ddwyrain Cymru (Ysbyty Prifysgol Cymru, Llandochau, Coryton, Casnewydd, Merthyr Tudful), Sir Gaerfyrddin (safleoedd Caerfyrddin a Llanelli), Gogledd Cymru (Bangor, y Rhyl a Wrecsam) ac ardal Bae Abertawe (Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr).
Yn ogystal â'r swyddogaethau cyffredinol hyn, mae labordai Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu cyfleusterau arbenigol a chyfeirio ar gyfer Cymru gyfan a'r DU.
Rydym angen eich adborth ar ein gwasanaethau Microbioleg i sicrhau ein bod yn darparu'r gwasanaeth mwyaf addas ar gyfer ein defnyddwyr ac, o ganlyniad, i’r cleifion. Rhowch wybod i ni beth rydym yn ei wneud yn dda yn ogystal â ble y teimlwch y gallem wneud gwelliannau trwy gwblhau ein harolwg Adborth Defnyddwyr Microbioleg.
Os yw aelod penodol o staff neu adran yn haeddu cydnabyddiaeth, gadewch ganmoliaeth iddyn nhw.
Sylwch: mae'r arolwg adborth defnyddwyr Microbioleg wedi'i gynllunio i'w gwblhau gan bersonél gofal iechyd ac nid cleifion nac aelodau'r cyhoedd. Os ydych yn glaf ac yn dymuno rhoi adborth am wasanaethau Microbioleg, trafodwch hyn gyda'ch tîm clinigol neu dilynwch y ddolen isod am adborth a chwynion.
Mae lleisio pryder neu gŵyn yn ein galluogi i ymchwilio a dysgu o'ch profiadau a gwella'r gwasanaethau a gynigiwn yma yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae manylion am sut i wneud cwyn ar gael yma: https://phw.nhs.wales/feedback-and-complaints/