Neidio i'r prif gynnwy

Ein Buddion

Ein Buddion

Mae boddhad gwybod eich bod â rhan wrth Weithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru yn wobr ynddo’i hun. Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru, byddwn hefyd yn eich gwobrwyo chi gyda’n pecyn manteision hael.

Manteision Sefydliadol

  • Gwyliau Blynyddol - Byddwch yn cael lwfans gwyliau blynyddol hael o 28 diwrnod y flwyddyn a gwyliau banc hefyd. Mae hyn yn codi i 30 diwrnod ar ôl pum mlynedd ac wedyn 34 diwrnod ar ôl deng mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun Prynu Gwyliau Blynyddol - O dan ein cynllun, gall staff brynu hyd at 10 diwrnod ychwanegol o wyliau blynyddol mewn blwyddyn ariannol benodol, i’w dalu’n ôl dros gyfnod o 6 neu 12 mis drwy dderbyn gostyngiad mewn cyflog.
  • Gweithio'n Hyblyg - Rydym yn parchu bod mwy i fywyd na gwaith ac rydym am sicrhau y gallwn helpu i gael eich cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn iawn. Mae’r Ymddiriedolaeth yn cynnig polisi gweithio hyblyg i'ch helpu i gydbwyso’ch bywyd cartref a bywyd gwaith, gan gynnwys oriau gwaith rhan-amser, opsiynau rhannu swyddi, seibiannau gyrfa, ymddeoliad hyblyg a gweithio gartref lle bo hynny'n berthnasol.  
  • Gweithio lle a sut mae'n gweithio orau yw ein dull treial 12 mis i gynyddu hyblygrwydd a dewis i bawb, gan ddatblygu cynifer o'r manteision a wireddwyd gennym drwy weithio'n wahanol yn ystod y pandemig â phosibl.  Cysylltwch â'r rheolwr cyflogi i gael rhagor o wybodaeth.  
  • Iechyd a Llesiant - Mae mentrau iechyd a llesiant ar gael ar draws yr Ymddiriedolaeth, gan gynnwys: gostyngiad ar aelodaeth o gampfa mewn nifer helaeth o ganolfannau ledled Cymru.
  • Iechyd Galwedigaethol - Gall pob aelod o staff ddefnyddio ein gwasanaeth iechyd galwedigaethol: mae’r gwasanaeth yn gallu cefnogi staff gyda rheoli straen, cwnsela cyfrinachol a brechiadau tymhorol.
  • Pensiwn - Fel sefydliad, rydym wedi ymrwymo i gynllun pensiwn y GIG. Os byddwch yn ymuno â chynllun pensiwn y GIG, bydd yr Ymddiriedolaeth yn cyfrannu 14.3% tuag at eich pensiwn.
  • Cynllun Beicio ir Gwaith - Os ydych eisiau beicio i’r gwaith, gallwch archebu beic i chi eich hun drwy'r cynllun beicio i’r gwaith ac arbed hyd at 42% i chi eich hun oddi ar gost eich beic newydd.
  • Cynllun Aberthu Cyflog Car Prydles - Mae Fleet Solutions yn cynnig cynllun aberthu cyflog car prydles arweiniol ar gyfer y GIG a sefydliadau sector cyhoeddus eraill gyda dewis o injans trydan, hybrid a hylosgi.
  • Wagestream:  Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth gyda Wagestream i helpu i gynyddu gwydnwch ariannol a llesiant. Mae’r ap rhad ac am ddim yn rhoi mynediad at addysg a hyfforddiant ariannol, yn ogystal â’r gallu i greu blychau cynilo a chael mynediad ar unwaith i dalu os oes ei angen arnoch cyn eich diwrnod cyflog.
  • Vivup, Rhaglen Gymorth i Weithwyr - Budd a ariennir gan y cyflogwr yw hwn sy’n golygu y gallwch siarad yn gyfrinachol gydag arbenigwyr cymorth a chwnselwyr cwbl gymwys.  Mae’r gwasanaeth ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn i drafod materion emosiynol, personol neu rai sy’n ymwneud â gwaith. Yn ogystal, mae ganddynt gyfoeth o adnoddau i staff droi atynt, sy’n amrywio o lawlyfrau hunangymorth, i flogiau a phodlediadau.

 

 

Gostyngiadau Cymru Gyfan

  • Gostyngiadau lleol - Gall holl staff y GIG arbed arian drwy gyflwyno eu cerdyn adnabod gan y GIG mewn llawer o sefydliadau lleol, gan gynnwys y canolfannau garddio sy’n cymryd rhan, canolfannau hamdden, cyfleusterau campfa preifat, bwytai sy’n cymryd rhan a gwerthwyr ceir Vauxhall ymhlith eraill.

Gostyngiadau De Cymru

Sylwer: Cyhoeddir y gostyngiadau hyn yn ddidwyll ac ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw un o’r nwyddau a gwasanaethau a gynigir.

 

 

Gyrfaoedd

Ymunwch â ni i wella iechyd a lles pobl cymru.

Swyddi Agored

Gwneud cais ac ymuno â ni.

Ein Gwerthoedd

Cafodd ein gwerthoedd eu datblygu gan ein staff; gan eu bod mor greiddiol i hunaniaeth sefydliad, ni allai un neu ddau o bobl mewn ystafell gyfarfod feddwl am y rhain!

Byw a gweithio yng Nghymru

Yma yng Nghymru mae gennym hunaniaeth ddiwylliannol unigryw sy'n edrych tuag allan, cefn gwlad hardd, a phrifddinas lewyrchus.