Cynnwys:
Mae COVID-19 yn glefyd heintus a achosir gan feirws. Bydd gan y mwyafrif o bobl sydd wedi'u heintio â'r feirws salwch anadlol ysgafn i gymedrol, a byddant yn gwella heb fod angen triniaeth. Gall fod yn fwy difrifol yn achos pobl hŷn a’r rhai â chyflyrau iechyd penodol, megis bod â system imiwnedd wan. Os bydd y bobl hyn yn dal y feirws, gallant fynd yn ddifrifol wael ac efallai y bydd arnynt angen gofal meddygol neu gael eu derbyn i'r ysbyty.
Ymhlith symptomau cyffredin COVID-19 mae pesychu parhaus, methu arogli neu flasu neu newid i'ch synnwyr o arogl neu flas, poenau, cur pen, blinder, a gwendid. Mae rhagor o wybodaeth am COVID-19 ar gael yma: Canllawiau i bobl sydd â symptomau haint anadlol, gan gynnwys COVID-19 | LLYW.CYMRU (safle allanol).
Y ffordd orau o amddiffyn eich hun rhag y feirws yw cael y brechlyn COVID-19. Dros amser, gall feirysau newid a gall lefelau eich amddiffyniad leihau. Bydd cael eich brechu yn eich helpu i gael symptomau llai difrifol a gwella'n gyflymach.
Mae brechlynnau yn achub bywydau ac maent yn ffordd effeithiol o amddiffyn eich hun rhag mynd yn ddifrifol wael. Mae brechlynnau ar gyfer COVID-19 yn helpu i'ch amddiffyn rhag y mathau cyfredol o feirysau COVID-19. Yn union fel y ffliw, gall y math presennol newid, felly'r ffordd orau o'ch amddiffyn eich hun rhag mynd yn ddifrifol wael yw cael dos yn y gwanwyn.
Yng Nghymru, rydym yn dilyn cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ar ddefnyddio brechlynnau gwahanol yn rhan o raglenni brechu. Byddwch yn cael cynnig y brechlyn mwyaf priodol, a all fod yr un fath â'r brechlynnau a gawsoch o'r blaen neu'n wahanol iddynt. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y brechlynnau COVID-19 cyfredol, a gweld y daflen wybodaeth i gleifion, yma: medicines.org.uk/emc (safle allanol, Saesneg yn unig). Teipiwch 'COVID-19' yn y blwch chwilio.
Mae pob meddyginiaeth a brechlyn wedi pasio safonau diogelwch llym i'w defnyddio yn y DU, ac maent yn ddiogel iawn. Mae'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yn gyfrifol am gymeradwyo'r defnydd o feddyginiaethau, gan gynnwys brechlynnau, a monitro eu diogelwch. Mae'r asiantaeth wedi cymeradwyo nifer o frechlynnau i’w defnyddio yn y DU gan nodi eu bod yn frechlynnau diogel ac effeithiol ar gyfer COVID-19. Yn yr un modd â phob meddyginiaeth a brechlyn, mae unrhyw adroddiadau am sgileffeithiau'r brechlyn COVID-19 yn cael eu monitro a'u hadolygu'n fanwl.
Gallwch ddod o hyd i atebion i gwestiynau cyffredin am y brechlyn COVID-19 isod. Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon yn rheolaidd, pan fydd gwybodaeth newydd ar gael.