Yn sgil y lefel uchel o imiwnedd sydd wedi datblygu yng Nghymru dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf, ac wrth i ni symud o ymateb brys tuag at ddull mwy arferol, nid fyddwn bellach yn cynnig y brechlynnau canlynol.
Mae hyn yn golygu bod gan y rhai pump i 49 oed nad ydynt wedi cael eu dau ddos neu eu dos atgyfnerthu 2021 tan y dyddiadau hynny i fanteisio ar y cynigion hyn.
Bydd pobl sy'n datblygu cyflwr iechyd newydd sy'n eu rhoi mewn grŵp risg clinigol, nad ydynt hyd yma wedi cael eu cwrs dau ddos neu'r pigiad atgyfnerthu (neu'r ddau), yn dal i allu cael eu brechu yn ystod yr ymgyrch nesaf (neu'n gynharach os bydd clinigydd yn cynghori hynny).