Neidio i'r prif gynnwy

Canllaw i frechiad atgyfnerthu'r gwanwyn COVID-19

 

Mae'r daflen hon yn egluro'r rhaglen brechiad atgyfnerthu COVID-19 i bobl gymwys. 

Cynnwys

 

Beth yw COVID-19? 

Mae COVID-19 yn glefyd anadlol heintus iawn a achosir gan feirws SARS-CoV-2. Mae'n fwy difrifol mewn pobl hŷn a'r rhai sydd â chyflyrau iechyd penodol. 

 

Pam mae angen pigiad atgyfnerthu'r gwanwyn ar rai pobl?

Fel rhai brechlynnau eraill, gall lefelau amddiffyniad ddechrau lleihau dros amser. Bydd y pigiad atgyfnerthu yn helpu i'ch amddiffyn am fwy o amser.  

Bydd hefyd yn helpu i leihau'r risg o orfod mynd i'r ysbyty oherwydd haint COVID-19. 

 

Pwy fydd yn cael cynnig pigiad atgyfnerthu'r gwanwyn?

Bydd y pigiad atgyfnerthu yn cael ei gynnig i'r canlynol: 

  • pobl 75 oed a throsodd; 
  • preswylwyr mewn cartrefi gofal i bobl hŷn; a 
  • phlant pump oed a throsodd sydd â system imiwnedd wannach. 

 

Pryd y bydd brechlyn atgyfnerthu'r gwanwyn yn cael ei roi?

Os ydych yn gymwys i gael pigiad atgyfnerthu'r gwanwyn byddwch yn cael cynnig hyn rhwng mis Ebrill a mis Mehefin, tua chwe mis (ac nid cyn tri mis) ar ôl eich dos diwethaf o'r brechlyn.  

Os nad ydych wedi cael y brechiadau cyntaf 

Os nad ydych wedi cael y dos cyntaf neu'r ail ddos o'r brechlyn, dylech eu cael cyn gynted â phosibl. 

 

Sut y byddaf yn cael fy mrechiad?

Bydd y GIG yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi pryd a ble i gael y brechlyn. Mae'n bwysig mynd i'r apwyntiad pan fyddwch yn cael eich gwahodd. 

Os na allwch fynd, rhowch wybod i'r tîm archebu fel y gallant roi eich apwyntiad i rywun arall. 
Mae manylion cyswllt y tîm ar y llythyr apwyntiad. 

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut i gael y brechiad yn: llyw.cymru/cael-eich-brechlyn-covid-19 

 

Pa frechlyn a gynigir i mi? 

Byddwch yn cael cynnig y brechlyn mwyaf priodol, a all fod yr un fath neu'n wahanol i'r brechlynnau a gawsoch o'r blaen. Maent yn ddiogel, yn effeithiol ac fe'u hargymhellir i'w defnyddio fel pigiadau atgyfnerthu. 

 

A oes unrhyw sgil-effeithiau? 

Fel gyda dosau blaenorol, mae sgil-effeithiau cyffredin yr un peth ar gyfer pob brechlyn COVID-19 a ddefnyddir yn y DU. Maent yn cynnwys: 

  • teimlad poenus, trwm a thynerwch yn y fraich lle rhoddwyd y pigiad am sawl diwrnod ar ôl y brechiad; 
  • teimlo’n flinedig; 
  • pen tost/cur pen; a
  • phoenau cyffredinol neu symptomau ysgafn tebyg i ffliw. 

Efallai y cewch dwymyn ysgafn am ddau i dri diwrnod, ond mae tymheredd uchel yn anarferol a gall olygu bod gennych haint COVID-19 neu haint arall. Gallwch gymryd y dos arferol o barasetamol (dilynwch y cyngor yn y pecyn a pheidiwch â chymryd mwy na'r dos a argymhellir), a gorffwys i’ch helpu i deimlo’n well.  

Mae'r symptomau hyn fel arfer yn para llai nag wythnos. Os yw eich symptomau fel pe baent yn gwaethygu neu os ydych yn bryderus, ewch i 111.wales.nhs.uk ar-lein, ac os oes angen ffoniwch GIG 111 Cymru ar 111 neu eich meddygfa. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol. 

 

Sgil-effeithiau difrifol

Ledled y byd, cafwyd hefyd achosion prin iawn o lid y galon (o'r enw myocarditis neu bericarditis) a nodwyd ar ôl brechlynnau Pfizer a Moderna. 

Gwelwyd yr achosion hyn yn bennaf mewn dynion iau o fewn sawl diwrnod ar ôl eu brechu. Roedd y rhan fwyaf o'r bobl hyn wedi gwella ac yn teimlo'n well ar ôl gorffwys a thriniaeth syml. 

Dylech gael cyngor meddygol ar unwaith os oes gennych y canlynol ar ôl eich brechiad: 

  • poen yn y frest;  
  • prinder anadl; neu’r 
  • calon sy'n curo'n gyflym, yn dirgrynu neu'n curo fel gordd. 

 

Pwy na ddylent gael pigiad atgyfnerthu'r gwanwyn?

Prin iawn yw'r bobl na ddylent gael pigiad atgyfnerthu. 

Os cawsoch sgil-effeithiau difrifol ar ôl unrhyw frechiad blaenorol, efallai y bydd yn well peidio â chael brechiad arall neu ei oedi. Dylech drafod hyn gyda’ch meddyg neu arbenigwr sy'n gyfrifol am eich gofal. 

Gallwch roi gwybod am unrhyw sgil-effeithiau ar-lein yn coronavirus-yellowcard.mhra.gov.uk neu ar yr ap Yellow Card. 

 

A ellir rhoi brechlynnau COVID-19 ar yr un pryd â brechlynnau eraill?

Gellir, mae modd rhoi brechlynnau COVID-19 ar yr un pryd â brechlynnau eraill gan gynnwys brechlynnau ffliw. I gael y cyngor diweddaraf am hyn, ewch i icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/ 

 

Beth ddylwn ei wneud os ydw i wedi cael COVID-19 yn barod?

Os ydych wedi cael COVID-19 yn barod dylech  gael y brechlyn atgyfnerthu o hyd.  

Os ydych yn sâl, mae'n well aros nes eich bod wedi gwella cyn i chi gael y pigiad atgyfnerthu. Ceisiwch gael y pigiad atgyfnerthu cyn gynted â phosibl pan fyddwch yn well.  

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a thaflenni i gleifion yn: icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/  

 

A allaf ddal COVID-19 o hyd ar ôl cael y brechlyn?

Bydd brechiad COVID-19 yn lleihau'r siawns y byddwch yn dioddef o COVID-19. Gall gymryd ychydig ddyddiau i'ch corff ddatblygu rhywfaint o amddiffyniad o'r pigiad atgyfnerthu.  

Fel pob meddyginiaeth, nid oes unrhyw frechlyn yn gwbl effeithiol – efallai y bydd rhai pobl yn dal i gael COVID-19 er iddynt gael brechiad, ond dylai hyn fod yn llai difrifol. 

 

Beth am roi caniatâd? 

Os ydych yn rhiant neu ofalwr sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn neu berson ifanc, gofynnir i chi roi caniatâd gwybodus iddo gael y brechlyn.   

Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd pobl ifanc 12 i 15 oed yn ddigon aeddfed i roi caniatâd eu hunain os ydynt yn deall yn llawn yr hyn sy'n cael ei gynnig, er ei bod yn well i rieni neu ofalwyr gymryd rhan yn eu penderfyniad ynghylch cael y brechlyn.   

Bydd y nyrs neu'r person sy'n rhoi'r brechiad yn gallu trafod y brechlyn yn yr apwyntiad ac ateb unrhyw gwestiynau. 

 

Rhagor o wybodaeth

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am frechlynnau COVID-19, gan gynnwys eu cynnwys a sgil-effeithiau posibl yn: coronavirus-yellowcard.mhra.gov.uk/productinformation   

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a thaflenni i gleifion yn: icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/ 

I gael gwybodaeth am frechlynnau mewn fformatau eraill, fel print bras, ewch i: icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/adnoddau-hygyrch-brechu 

Gallwch roi gwybod am unrhyw sgil-effeithiau ar-lein yn: coronavirus-yellowcard.mhra.gov.uk neu drwy lawrlwytho'r ap Yellow Card. 

I gael gwybod sut y mae'r GIG yn defnyddio eich gwybodaeth, ewch i: 111.wales.nhs.uk/aboutus/yourinformation/?locale=cy 

I archebu copïau ychwanegol neu fformatau amgen o'r daflen hon, ewch i: icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/adnoddau-gwybodaeth-iechyd 

 

© Iechyd Cyhoeddus Cymru, Mawrth 2023  
(gyda chydnabyddiaeth i Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU) 

Fersiwn 4 
ISBN 978-1-83766-138-1