Neidio i'r prif gynnwy

Y Bwrdd a'r Tîm Gweithredol

Mae'r Rheoliadau Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru (Aelodaeth a Gweithdrefn) 2009 (a diwygiadau dilynol) yn amodi y dylai Bwrdd y Cyfarwyddwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnwys Cadeirydd, saith Chyfarwyddwr Anweithredol (a elwir hefyd yn aelodau Annibynnol) a chwe Gweithredol, gan gynnwys y Prif Weithredwr a'r Prif Swyddog Cyllid.

Mae Bwrdd y Cyfarwyddwyr yn gweithredu i wneud penderfyniadau corfforaethol, gyda Chyfarwyddwyr Anweithredol a Gweithredol yn aelodau llawn a chyfartal ac yn rhannu cyfrifoldeb corfforaethol dros y penderfyniadau y mae'n ei wneud.

Yn benodol, mae'r Bwrdd Cyfarwyddwyr yn gyfrifol am gyfeiriad strategol, fframwaith llywodraethu, diwylliant sefydliadol a datblygu, datblygu perthynas gref â rhanddeiliaid allweddol a phartneriaid a chyflwyno nodau ac amcanion Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ogystal, mae'r Cyfarwyddwyr Gweithredol hefyd yn gyfrifol am gyflawni swyddogaethau iechyd corfforaethol a chyhoeddus Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’r Datganiadau o Fuddiannau ar gyfer Aelodau’r Bwrdd ar gael ar adran cynllun cyhoeddiadau y wefan.

Mae Ymddygiad Bwrdd yn gosod yr ymddygiadau a ddisgwylir gan holl aelodau’r Bwrdd a’r mynychwyr, wrth i'r Bwrdd/Pwyllgorau weithredu eu rôl stiwardiaeth a chymryd yr awenau wrth hyrwyddo gwerthoedd a safonau ymddygiad y sefydliad a'i staff.

Mae'r bwrdd wedi ymrwymo i weithredu yn y ffordd fwyaf tryloyw, agored ac atebol ag sy'n bosibl. Weithiau bydd rhywfaint o fusnes y sefydliad yn cael ei ystyried yn fwy priodol mewn sesiwn breifat; bydd hyn yn sicrhau nad yw'r busnes sy'n cael ei ystyried yn destun rhagfarn a allai achosi niwed diangen ar y cyhoedd, a bydd hefyd yn sicrhau na fydd unrhyw ddylanwad annheg i'r cyhoedd yn digwydd. Mae'r Protocol ar gyfer Neilltuo Materion i Gyfarfod Preifat o’r Bwrdd (neu Bwyllgor) wedi'i gymeradwyo gan y Bwrdd i helpu i nodi'r rhesymau sy'n fwyaf tebygol o fod yn berthnasol i ddeunydd a ystyrir gan y Bwrdd (neu'r pwyllgor) mewn sesiwn breifat.