Neidio i'r prif gynnwy

Y Pwyllgor Tâl a Thelerau Gwasanaeth

 

 

Mae'r Pwyllgor hwn yn cynghori'r Bwrdd ar dâl a thelerau gwasanaeth ar gyfer y Prif Weithredwr, Cyfarwyddwyr Gweithredol ac uwch staff eraill o fewn y fframwaith a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae'n rhoi sicrwydd i'r Bwrdd am drefniadau'r Ymddiriedolaeth ynghylch tâl a thelerau gwasanaeth, gan gynnwys trefniadau cytundebol ar gyfer yr holl staff, yn unol â'r gofynion a'r safonau a bennir ar gyfer GIG Cymru.

Cynhelir cyfarfodydd y Pwyllgor Tâl a Thelerau Gwasanaeth mewn sesiwn breifat. Adroddir ar gofnodion y cyfarfod yn y cyfarfod canlynol o’r Bwrdd.

Gweld / lawrlwytho'r Cylch Gorchwyl ac Aelodaeth ar gyfer y Pwyllgor Tâl a Thelerau Gwasanaeth yma.

 

Pwy yw pwy

 

Aelodau

(Lleiafswm o bedwar)

Cadeirydd

Jan Williams

Aelodau Annibynnol

Tri Chyfarwyddwr Anweithredol

(lle bo hynny'n bosibl dylai gynnwys Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu Corfforaethol)

Prif Weithredwr

Tracey Cooper

Yn bresennol

(Drwy wahoddiad, yn ôl yr angen, ond fel arfer mae'n cynnwys yr isod)

Cyfarwyddwr Datblygu Sefydliadol a Phobl

Neil Lewis

Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau a Chyllid

Huw George

Ysgrifennydd y Bwrdd a Phennaeth Uned Fusnes y Bwrdd

Paul Veysey

 

Cadeirydd y Pwyllgor sy’n penderfynu pa mor aml y mae'n cyfarfod, gyda chytundeb Aelodau'r Pwyllgor, ond mae disgwyl iddo gyfarfod o leiaf unwaith y flwyddyn.