Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd carchardai yng Nghymru

Mae swyddogaethau'r Rhaglen Diogelu Iechyd yn cynnwys:

  • Cefnogi'r gwaith o wneud diagnosis cyflym o heintiau, sicrhau y caiff triniaethau eu rhoi yn brydlon, a chymryd camau uniongyrchol i atal lledaenu heintiau yn amgylchedd y carchar.
  • Monitro tueddiadau heintiau a'r defnydd o wasanaethau diogelu iechyd ym mhob rhan o'n carchardai
  • Cefnogi'r carchar fel amgylchedd iach â phrosesau rheoli heintiau da
  • Cefnogi dynion yn y carchar i ddiogelu eu hiechyd eu hunain drwy ddarparu gwybodaeth a sicrhau eu bod yn gallu manteisio ar raglenni sgrinio a brechu
  • Cyfrannu at yr agenda diogelu iechyd mewn carchardai cenedlaethol a rhyngwladol drwy ymchwil, cyhoeddiadau a rhwydweithiau rhyngwladol.

Mae'r rhaglen yn ymdrechu i fod yn seiliedig ar dystiolaeth, ac mae'n dibynnu ar gydweithio â rhanddeiliaid megis Llywodraeth Cymru, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru, Byrddau Iechyd y GIG a sefydliadau'r trydydd sector.  Cynhelir cyfarfodydd o'r holl sefydliadau'n rheolaidd, ac maent i gyd yn gweithio mewn partneriaeth i gefnogi gwasanaethau iechyd mewn carchardai, ac i weithio tuag at sicrhau bod carchardai yn cynnig amgylchedd sy'n hybu iechyd.
 

Trosolwg o Garchardai yng Nghymru

Mae chwe charchar i ddynion yng Nghymru, sydd gyda'i gilydd yn lletya tua 5,000 o garcharorion ar unrhyw adeg benodol:

Mae cyfrifoldeb cyffredinol am ddatblygu gofal iechyd o fewn carchardai'r sector cyhoeddus yng Nghymru wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Ers mis Ebrill 2006, GIG Cymru sy'n darparu gwasanaethau iechyd yng ngharchardai'r sector cyhoeddus, a Byrddau Iechyd lleol sy'n eu cyflawni i'r carchardai. Carchar preifat yw CEM ac STI Parc, a chaiff gofal iechyd sylfaenol yn y safle hwn ei gomisiynu gan Wasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru.
 

Cytundeb Partneriaeth ar gyfer Iechyd mewn Carchardai

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymrwymedig i gefnogi'r Cytundeb Partneriaeth ar gyfer Iechyd mewn Carchardai yng Nghymru. Cytundeb ar y cyd yw hwn, rhwng Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, Byrddau Iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'n nodi blaenoriaethau y cytunwyd arnynt ar gyfer gwella iechyd mewn carchardai – sef:

  • Amgylchedd ehangach y carchar a'i gyfraniad at wella canlyniadau iechyd a llesiant (Dan arweiniad Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi. Gohiriwyd y gwaith ymgysylltu).
  • Iechyd meddwl a datblygu safonau y cytunir arnynt ar gyfer gwasanaethau iechyd mewn carchardai (Dan arweiniad Llywodraeth Cymru ar y cyd â Choleg Brenhinol y Seiciatryddion. Mae safonau ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl wrthi'n cael eu llunio).
  • Camddefnyddio sylweddau a datblygu Fframwaith Trin Camddefnyddio Sylweddau newydd ar gyfer carchardai (Dan arweiniad Llywodraeth Cymru ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'r Fframwaith wrthi'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, ond gohiriwyd y gwaith ymgysylltu tan Hydref 2020).
  • Rheoli Meddyginiaethau (Dan arweiniad Llywodraeth Cymru. Bydd y gwaith yn cynnwys canolbwyntio ar y graddau y caiff y safonau ar gyfer rheoli meddyginiaethau (a ddatblygwyd gan y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol) eu bodloni ar hyn o bryd mewn carchardai yng Nghymru). 

 

Mae'r blaenoriaethau wedi'u llunio ar sail y cytundeb mai dull carchar cyfan o weithredu yw hwn ar gyfer gwella canlyniadau iechyd a llesiant i garcharorion yng Nghymru.

Mae rhai agweddau ar y gwaith sy'n gysylltiedig â'r Cytundeb Partneriaeth ar gyfer Iechyd mewn Carchardai wedi'u gohirio ar hyn o bryd o ganlyniad i COVID-19, yn enwedig mewn perthynas â chynlluniau ymgysylltu a gwaith gyda rhanddeiliaid. Mae cerrig milltir allweddol sy'n gysylltiedig â'r llif gwaith wedi cael eu diwygio yn unol â hyn.


Darllenwch y Cytundeb partneriaeth yn llawn yma.

 

Ymchwiliad Senedd Cymru i Iechyd mewn Carchardai

Mae Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon Senedd Cymru wedi cwblhau ymchwiliad yn ddiweddar i ‘Darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol ar yr ystâd carchardai i oedolion’.

Gellir lawrlwytho'r dystiolaeth a gyflwynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yma: