Neidio i'r prif gynnwy

Feirysau a Gludir yn y Gwaed mewn Carchardai yng Nghymru

Mae feirysau a gludir yn y gwaed yn cynnwys Hepatitis C (HCV), Hepatitis B (HBV) a HIV.  Ystyrir bod y rheini sydd yn y carchar yn wynebu mwy o risg o ddal feirysau a gludir yn y gwaed felly bydd profion, diagnosis cynnar a thriniaeth yn cael effaith sylweddol ar well iechyd.

Ym mis Tachwedd 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gylchlythyr Iechyd Cymru yn cyflwyno trefniadau sgrinio optio allan ar gyfer feirysau a gludir yn y gwaed ym mhob carchar yng Nghymru.  Ers hynny, mae'r cyfraddau profi wedi cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Yn 2018, cafodd 3888 o unigolion o garchardai yng Nghymru eu profi am feirysau a gludir yn y gwaed, gan gynrychioli 44.4% o boblogaeth carchardai.

Gallwch weld ein papur sy'n dwyn y teitl "Prevalence of HCV in prisons in Wales, UK and the impact of moving to opt-out HCV testing” yn y Journal of Public Health yma.

Mae gwasanaethau triniaeth arbenigol ar gael ym mhob carchar sy'n golygu y gall cleifion fynd o gael prawf i gael triniaeth heb orfod gadael y carchar.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymrwymedig i gyflawni targed Sefydliad Iechyd y Byd o leihau Hepatitis C fel bygythiad i iechyd y cyhoedd erbyn 2030.  Mae profion a thriniaeth mewn lleoliadau carchar yng Nghymru yn cyfrannu'n sylweddol at hyn.  Ym mis Medi 2019, CEM Abertawe oedd carchar remánd cyntaf y DU i ddatgan ei fod wedi cael gwared ar Hepatitis C yn llwyr.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynhyrchu'r adnoddau canlynol ar gyfer carchardai ar brofi am Hepatitis C. Gellir eu lawrlwytho yma:
 

Dolenni Defnyddiol

Ymddiriedolaeth Hepatitis C
 

Brechiadau Hepatitis B mewn carchardai yng Nghymru

Cynigir brechiadau Hepatitis B i bawb sydd yn y carchar fel rhan o gynllun carlam.  Caiff data ar nifer y brechiadau a roddir eu casglu bob mis.

Gallwch lawrlwytho ein papur o 2019 sy'n dwyn y teitl “Hepatitis B coverage in short and long stay prisons in Wales, UK 2013-2017 and the impact of the global vaccine shortage”  yng nghyfnodolyn Vaccine yma.