Neidio i'r prif gynnwy

Ein Gwerthoedd

Ein Gwerthoedd

 

 

Y daith

Cafodd ein gwerthoedd eu datblygu gan ein staff; gan eu bod mor greiddiol i hunaniaeth sefydliad, ni allai un neu ddau o bobl mewn ystafell gyfarfod feddwl am y rhain! 

Yn 2016, gwahoddwyd yr holl gydweithwyr i gymryd rhan mewn trafodaethau a gweithdai wedi’u hwyluso, gan ganolbwyntio ar sut rydym yn gweld ein hunain pan rydym ar ein gorau – rhywbeth y dylem anelu ato bob amser ac a ddylai fod yn 'ddiofyn' gennym.

Daeth themâu cyffredin yn glir iawn yn fuan iawn a gyda chyfraniad terfynol gan ein Bwrdd, cytunwyd arnynt.

 

Sut y byddwn yn integreiddio ein gwerthoedd

Rydym yn parhau i ymgorffori ein gwerthoedd ar draws ein prosesau a’n gweithdrefnau yn ogystal â'u gwireddu ar gyfer pob cydweithiwr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.

  • Mae’r daith yn dechrau yn ystod y cylch recriwtio pan fo ymgeiswyr yn cael eu hasesu yn erbyn cymwyseddau’r rôl, yn ogystal â’n gwerthoedd, gan sicrhau ein bod yn cyflogi ymgeiswyr sydd wir yn credu yn yr un gwerthoedd â’r rhai sy’n gyrru ein sefydliad yn ei flaen.
  • Pan fyddwch yn dechrau gweithio i ni, gallwch ddisgwyl amcanion blynyddol, a elwir yn 'Fy Nghyfraniad' yn seiliedig ar ein gwerthoedd craidd, fel bod eich amcanion unigol yn cefnogi strategaeth y sefydliad a gwerthoedd a rennir.
  • Ac nid ydym yn gadael y gwerthoedd ar hynny – rydym yn cydnabod gwaith gwych ein cydweithwyr ac, yn benodol, sut rydym yn ei wneud yn ystod ein gwobrau staff blynyddol a ddechreuwyd yn 2018 dan yr enw ‘Diolch.’ Mae’r gwobrau ar gyfer y rhai sydd wedi dangos ymddygiad rhagorol yn seiliedig ar y gwerthoedd!

Mae’n daith yr ydym yn cychwyn arni, ond credwn yn gryf y bydd cydnabod y gwaith gwych y mae ein staff yn ei wneud yn sicrhau ein bod ni, fel sefydliad, yn parhau i Weithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru.