×
Rydych yn pori gwefan newydd Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Methu dod o hyd i'r eitem 'rydych chi'n chwilio amdano? Ewch i'r hen gwefan.

Ein Blaenoriaethau

Plant yn chwarae ar traeth



Gyda chymorth ein staff, ein partneriaid a phobl Cymru, rydym wedi datblygu strategaeth hirdymor yn cwmpasu 2018-30. Mae'n dod â saith blaenoriaeth strategol at ei gilydd sy'n gysylltiedig â'i gilydd sydd yn ein helpu i gyflawni ein pwrpas: Gweithio i Wireddu Dyfodol Iachach i Gymru.

Bydd y Strategaeth hon yn ein galluogi i ganolbwyntio ar y ffordd orau o weithio gyda'n partneriaid i gael yr effaith fwyaf ar wella iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.

Ein saith blaenoriaeth yw:

  • Dylanwadu ar benderfynyddion ehangach iechyd
  • Gwella llesiant meddyliol a chydnerthedd
  • Hyrwyddo ymddygiad iach
  • Sicrhau dyfodol iach ar gyfer y genhedlaeth newydd
  • Diogelu'r cyhoedd rhag heintiau a bygythiadau amgylcheddol i iechyd
  • Cefnogi gwaith i ddatblygu system iechyd a gofal gynaliadwy sy'n canolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar
  • Meithrin a defnyddio gwybodaeth a sgiliau i wella iechyd a llesiant ledled Cymru

Dogfennau

Strategaeth Hirdymor Iechyd Cyhoeddus Cymru: Gweithio i Wireddu Dyfodol Iachach i Gymru

Strategaeth Hirdymor Iechyd Cyhoeddus Cymru: Trosolwg

Cynllun Strategol Iechyd Cyhoeddus Cymru 2019-22 (Saesneg yn unig)

Cynllun Strategol Iechyd Cyhoeddus Cymru 2018-21 (Saesneg yn unig)

Blaenoriaethau

Dylanwadu ar benderfynyddion ehangach iechyd

Byddwn yn cydweithio ag eraill i ddeall a gwella'r ffactorau sy'n effeithio ar iechyd pawb.

Y penderfynyddion iechyd ehangach yw'r ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sy'n dylanwadu ar iechyd, llesiant ac anghydraddoldebau. Drwy ddylanwadu ar ddyluniad a gweithrediad polisïau a strategaethau lleol a chenedlaethol sy’n gysylltiedig â’r penderfynyddion hyn byddwn yn gwella llesiant pobl ac yn lleihau anghydraddoldebau iechyd.

Penderfynyddion allweddol iechyd a llesiant yw ein teuluoedd, ein ffrindiau a’n cymunedau, ansawdd a diogelwch ein tai, ein lefel o addysg a sgiliau, argaeledd gwaith da, arian ac adnoddau a hefyd ein hamgylchedd

Erbyn 2030, rydym am i bobl Cymru gael siawns fwy cyfartal o fyw bywyd boddhaus, yn rhydd o afiechyd y gellir ei atal.

Mae hyn y golygu:

  • cynorthwyo plant i ddysgu a phobl ifanc i gyrraedd eu potensial llawn
  • cefnogi’r gwaith o ddatblygu polisi sy’n lleihau anghydraddoldeb incwm
  • cynorthwyo cyflogwyr i greu amgylcheddau sy’n cefnogi llesiant
  • cefnogi’r GIG i leihau effaith tlodi, incwm isel a dyledion fel rhwystrau rhag iechyd da
  • lleihau nifer y bobl sy’n rhoi’r gorau i weithio o ganlyniad i iechyd gwael
  • gweithio gydag eraill i atal digartrefedd
  • hyrwyddo ansawdd tai da
  • manteisio i’r eithaf ar botensial yr amgylchedd adeiledig a naturiol i wella iechyd a llesiant

Erbyn 2030:

  • bydd gennym amgylchedd dysgu mewn ysgolion a lleoliadau addysgol eraill sy’n gwella iechyd
  • byddwn wedi sefydlu’r egwyddor datblygu cynaliadwy fel ffordd o weithio ac rydym yn galluogi Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd o ansawdd uchel i gael eu cynnal ledled Cymru
  • byddwn wedi dylanwadu ar y prif gyflogwyr yng Nghymru i greu gwaith da, cynnal cyflogaeth a buddsoddi yn iechyd a llesiant y staff
  • byddwn yn brif ffynhonnell o gyngor a thystiolaeth ar y penderfynyddion iechyd ehangach i bobl allweddol sy'n gwneud penderfyniadau
  • byddwn wedi gwella ansawdd a hygyrchedd tai yng Nghymru drwy bartneriaeth iechyd a thai arloesol
  • byddwn wedi gweithio gyda phartneriaid i fanteisio i’r eithaf ar botensial yr amgylchedd adeiledig
  • a naturiol i wella iechyd a llesiant
Gwella llesiant meddyliol a chydnerthedd

Byddwn yn helpu pawb i gyflawni eu potensial yn llawn a gallu ymdopi'n well â'r heriau y may bywyd yn eu taflu atom.

Mae dulliau poblogaeth gyfan o wella llesiant meddyliol yn cynorthwyo unigolion i wireddu eu potensial yn llawn; ymdopi â’r heriau y mae bywyd yn eu taflu atynt; gweithio’n gynhyrchiol; a chyfrannu at eu bywyd teuluol a’u cymunedau.

Mae llesiant meddyliol da yn effeithio ar iechyd corfforol yn ogystal ag iechyd meddyliol ac mae ganddo’r potensial i ddylanwadu ar anghydraddoldebau sy’n gysylltiedig ag iechyd. Mae astudiaethau diweddar ar ACEs wedi dangos y berthynas rhwng ACEs a’u heffaith bosibl ar fywyd fel oedolyn megis ymddygiad sy’n niweidiol i iechyd ac ymddygiad troseddol. Maent hefyd wedi ein galluogi i ganolbwyntio ar y ffactorau sy’n meithrin cydnerthedd (lleihau effaith niwed) i unigolion a chymunedau. Mae gwydnwch yn elfen allweddol o lesiant meddyliol.

Erbyn 2030, rydym am i Gymru gael:

  • poblogaeth sy’n gwybod sut i gefnogi eu llesiant meddyliol eu hunain a llesiant eu teuluoedd
  • cymdeithas sy’n cefnogi pawb i fod yn iach yn feddyliol
  • dinasyddion sy’n fwy cydnerth
  • lefel uwch o lesiant meddyliol yn y boblogaeth

Mae hyn yn golygu:

  • meithrin hunan-barch, hunanhyder a’r gallu i ddeall a rheoli ein hemosiynau
  • lleihau effaith trawma emosiynol a phwysau gwenwynig (lleihau ACEs)
  • meithrin sgiliau i greu a chynnal perthnasau iach drwy gydol bywyd person
  • cysylltu pobl â’i gilydd mewn cymunedau i gynyddu’r ymdeimlad o berthyn a chymorth (gan gynnwys chwaraeon)

Erbyn 2030:

  • byddwn yn arwain sgwrs genedlaethol barhaus ynghylch yr hyn sy’n bwysig i’r cyhoedd a’r hyn sy’n ein helpu i sicrhau llesiant meddyliol gwell, gan ymateb i’r amgylchedd cymdeithasol ac economaidd sy’n newid yn barhaus a gweithio gyda’n partneriaid i ysgogi gweithredu ar y cyd i wella canlyniadau
  • byddwn yn monitro llesiant meddyliol y boblgaeth ac yn defnyddio hyn i ddylanwadu ar bolisïau, strategaethau a rhaglenni
  • byddwn wedi cefnogi partneriaid i hyrwyddo llesiant a chydnerthedd meddyliol gan gynnwys lleihau ACEs/trawma
  • byddwn wedi hwyluso Cymru sy’n wybodus ynghylch trawma a chydnerthedd – gan anelu at dorri cylchoedd o ganlyniadau meddyliol a chorfforol gwael o un genhedlaeth i’r llall
Hyrwyddo ymddygiad iach

Byddwn yn deall yr hyn sy'n sbarduno ymddygiad afiach ac yn ei gwneud yn haws i bobl wneud dewisiadau iach.

Mae ymddygiad pobl sy’n gysylltiedig ag iechyd yn cael eu dylanwadu gan amrywiaeth o ffactorau gan gynnwys yr amgylchedd cymdeithasol, economaidd a chorfforol a llesiant meddyliol. Drwy ei gwneud yn haws i bobl fabwysiadu ymddygiad iach, byddwn yn lleihau baich clefydau ac yn helpu i leihau’r bwlch mewn anghydraddoldebau iechyd sy’n codi o gyflyrau hirdymor fel gordewdra, canser, cyflyrau’r galon, strôc, cyflyrau anadlol a dementia.

Erbyn 2030, rydym am i Gymru fod ag amgylchedd a chymdeithas lle mae dewisiadau iach yn ddewisiadau hawdd.

Mae hyn yn golygu:

  • lleihau nifer y bobl sy’n ysmygu, a hynny’n gyflym
  • cynyddu gweithgaredd corfforol a hyrwyddo pwysau iach
  • atal niwed yn sgil amrywiaeth o ymddygiadau yn cynnwys y defnydd o sylweddau

Erbyn 2030, byddwn:

  • yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac eraill i sicrhau cynnydd o flwyddyn i flwyddyn yn nifer y plant a’r bobl ifanc sy’n ddi-fwg a helpu nifer cynyddol o ysmygwyr i roi’r gorau iddi
  • wedi cynyddu’n sylweddol cyfran y plant a’r bobl ifanc yng Nghymru sydd â phwysau iach pan fyddant yn dechrau yn yr ysgol ac wrth iddynt droi’n oedolion
  • yn gweithio i greu camau gweithredu wedi’u cydgysylltu ar draws yr holl system i gefnogi dewisiadau bwyd iach a hyrwyddo Cymru fwy egnïol
  • byddwn wedi newid y tueddiadau cymdeithasol arferol ynghylch pa mor dderbyniol yw amrywiaeth o ymddygiadau sy’n niweidio iechyd
Sicrhau dyfodol iach ar gyfer y genhedlaeth nesaf

Byddwn yn gweithio gyda rhieni a gwasanaethau i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn yng Nghymru.

Mae’r blynyddoedd cynnar yn cael eu diffinio mewn polisi yng Nghymru fel y cofnod rhwng beichiogrwydd a saith mlwydd oed. Mae blynyddoedd cynnar plentyn yn amser allweddol i sicrhau canlyniadau da yn ddiweddarach mewn bywyd gan gynnwys dysgu gwell, mynediad at waith da a bywyd boddhaol.

Erbyn 2030, rydym:

  • am weld mwy o blant yn cyrraedd eu llawn botensial
  • eisiau ein bod wedi cefnogi rhieni i fagu eu plant a bod llai o blant yng Nghymru yn cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs)

Mae hyn yn golygu:

  • cefnogi teuluoedd i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant
  • helpu plant i deimlo’n ddiogel drwy atal trawma emosiynol a phwysau niweidiol (atal ACEs)
  • hwyluso perthnasau cefnogol rhwng oedolion a phlant
  • cefnogi gwasanaethau’r blynyddoedd cynnar a hyrwyddo llesiant plant

Erbyn 2030, byddwn wedi:

  • ceisio sicrhau bod gan bob plentyn y dechrau gorau mewn bywyd a byddwn wedi hyrwyddo a  chefnogi system cefnogaeth integredig wedi’i seilio ar y boblogaeth i rieni a theuluoedd
  • wedi cynyddu’r gyfran o leoliadau sy’n cymryd camau i hyrwyddo iechyd yn y blynyddoedd cynnar
  • wedi gweithio gyda phartneriaid i leihau camdriniaeth ac esgeuluso plant
Diogelu'r cyhoedd rhag heintiau a bygythiadau amgylcheddol i iechyd

Byddwn yn defnyddio ein harbenigedd i ddiogelu'r boblogaeth rhag heintiau a bygythiadau sy'n deillio a ffactorau amgylcheddol, gan weithio ar y cyd ag eraill i liniaru'r risgiau hyn i iechyd y boblogaeth.

Un o’n swyddogaethau craidd yw defnyddio ein harbenigedd a’n hadnoddau ar waith i ddiogelu’r boblogaeth rhag heintiau difrifol ac effeithiau iechyd problemau amgylcheddol fel llygredd aer a newid yn yr hinsawdd. Bydd hyn yn golygu canfod achosion yn gynnar, cynllunio da a defnyddio adnoddau mewn cydweithrediad ag eraill i ddarparu ymateb effeithiol ar gyfer ein poblogaeth.

Erbyn 2030 rydym yn disgwyl bod wedi:

  • cael gwared ar Hepatitis B a C felbygythiad sylweddol i iechyd cyhoedd yng Nghymru
  • profi llai o heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd a dim ond defnyddio gwrthfiotigau’n briodol
  • mathau newydd o driniaethau i’w defnyddio yn lle gwrthfiotigau a llai o bobl yn marw o heintiau o ganlyniad i ymwrthedd i wrthfiotigau
  • y defnydd mwyaf posibl o imiwneiddio ar draws pob rhan o’r boblogaeth
  • paratoi ar gyfer effeithiau disgwyliedig newid yn yr hinsawdd a gallu ymdrin â hynny
  • nifer sylweddol llai o farwolaethau a salwch yn sgil ansawdd aer gwael
  • cydweithredu rhyngwladol cryfach ar fio-ddiogelwch gan leihau ymhellach y bygythiadau yn sgil clefydau heintus

Bydd hyn yn golygu:

  • geithio gyda’r partneriaid i leihau baich heintiau drwy:
    • lefelau uchel o frechiadau ac imiwneiddio
    • rheoli heintiau ynh gyflym ac effeithiol ym mhob lleoliad
    • lleihau achosion o ragnodi gwrthfiotigau yn amhriodol
  • gweithio gyda’n partneriaid i leihau baich iechyd gwael sy’n codi o beryglon amgylcheddol ac effeithiau disgwyliedig newid yn yr hinsawdd

Erbyn 2030, byddwn:

  • cyfrannu’n sylweddol at leihau afiachusrwydd a marwolaethau sy’n gysylltiedig â heintiau
  • yn casglu ac yn defnyddio data iechyd a gasglwyd ar draws y system iechyd a gofal i gyfeirio gweithgareddau atal a nodi cyfleoedd i ymyrryd yn gynharach (diagnosis amserol a thriniaeth briodol)
  • wedi sefydlu capasiti cryfach yng Nghymru ar gyfer rhybuddion cynnar, lleihau risgiau a rheoli risgiau cenedlaethol a byd-eang i iechyd
  • yn cael ein cydnabod fel arweinwyr systemau ar gyfer ymwrthedd yn erbyn heintiau a gwrthficrobau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd
  • wedi gweithio gyda phartneriaid i leihau’r marwolaethau a’r afiachedd y gellir eu priodoli i ffactorau fel effaith newid yn yr hinsawdd a llygredd aer
Cefnogi gwaith i ddatblygu system iechyd a gofal gynaliadwy sy'n canolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar

Byddwn yn gweithio ochr yn ochr â'n partneriaid i gefnogi'r gwaith o ddatblygu systemau iechyd a gofal cynaliadwy a hygyrch sy'n canolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar.

Byddwn yn gweithio ar y cyd i gefnogi’r gwaith o ddatblygu modelau gofal cynaliadwy a hygyrch sy’n canolbwyntio ar atal, sgrinio’n seiliedig ar y boblogaeth, ymyrraeth amserol, gwelliant parhaus a gofal di-dor i sicrhau’r budd mwyaf posibl i’r boblogaeth drwy gydol eu bywydau.

Erbyn 2030, rydym yn disgwyl bod wedi:

  • symud y cydbwysedd o ofal yn yr ysbyty i ofal yn y gymuned
  • lleihau’r baich afiechyd yn sgil cyflyrau hirdymor, gan arwain at lai o achosion, dulliau canfod cynnar a chanlyniadau goroesi gwell
  • symud y cydbwysedd o ofal proffesiynol i ofal a rennir
  • parhau i ddatblygu a darparu rhaglenni sgrinio ar sail tystiolaeth i fanteisio i’r eithaf ar dechnolegau newydd ac algorithmau sy’n seiliedig ar risg

Mae hyn yn golygu:

  • symud tuag at atal
  • ymyrraeth gynnar yn y gymuned
  • darparu rhaglenni sgrinio o ansawdd uchel sy’n seiliedig ar y boblogaeth genedlaethol
  • darparu gwasanaeth cyfartal
  • gwella ansawdd a diogelwch cleifion

Erbyn 2030:

  • byddwn yn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i atal clefydau drwy ryngweithio â chleifion drwy’r gwasanaeth iechyd
  • byddwn wedi cynyddu dulliau o atal clefydau ac ymyrraeth gynnar drwy ddulliau o gynnal a gwella’r ffocws ar raglenni sgrinio sy’n seiliedig ar y boblogaeth. Pan fydd clefyd yn cael ei ganfod, bydd y llwybrau gofal yn ddi-dor
  • byddwn yn lleihau amrywiaeth ac anghydraddoldeb mewn gofal a’r niwed wrth ei ddarparu
  • byddwn yn cefnogi symud gofal yn nes at y cartref ac yn sicrhau ei fod yn canolbwyntio ar gleifion a gofalwyr
Meithrin a defnyddio gwybodaeth a sgiliau i wella iechyd a llesiant ledled Cymru

Byddwn yn datblygu’r sgiliau, y polisïau a gwybodaeth yn seiliedig ar dystiolaeth er mwyn ein helpu ni a’n partneriaid i wella iechyd llesiant.

Rydym yn chwarae rhan allweddol mewn cefnogi polisi ac arferion sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Gallwn ychwanegu gwerth at ddatblygu, gweithredu a gwerthuso polisïau cydlynol, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, sy’n cefnogi’r gwaith o ddiogelu, gwella a hybu iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd ledled Cymru.

Er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn sicrhau bod gwybodaeth leol, cenedlaethol a rhyngwladol yn cael ei chynhyrchu, ei hadolygu a’i chyfathrebu mewn modd amserol er mwyn gwella, diogelu a chynnal iechyd cenedlaethau presennol Cymru a chenedlaethau’r dyfodol. Byddwn yn llywio polisïau ac ymarfer drwy wybodaeth arbenigol, diduedd y gellir ymddiried ynddi sy’n arwain dull system gyfan ar draws sectorau i sicrhau iechyd y boblogaeth.

Erbyn 2030, rydym yn disgwyl cael:

  • poblogaeth sydd â dealltwriaeth ddyfnach o’r heriau a’r cyfleoedd iechyd yng Nghymru, sydd wedi’i grymuso i ddylanwadu ar y canlyniadau ar gyfer eu cymunedau
  • gwasanaethau cyhoeddus sy’n dylanwadu ar ganlyniadau iechyd y boblogaeth sy’n seiliedig ar ddeallusrwydd a dadansoddiadau o safon fyd-eang, gan sicrhau’r budd mwyaf posibl o fuddsoddi mewn dulliau datblygu cynaliadwy
  • gwasanaethau cyhoeddus sydd â’r sgiliau, y capasiti a’r cymorth i gael mynediad at wybodaeth ac ymchwil o safon fyd-eang a’i defnyddio i lywio polisïau, asesiadauu o’r effaith ar iechyd gyda sicrwydd ansawdd a dull datblygu cynaliadwy
  • asiantaethau rhyngwladol yn dysgu o ragoriaeth ac yn cyfrannu ato wrth roi buddiannau iechyd cynaliadwy i’r boblogaeth ar waith yng Nghymru

Bydd hyn yn golygu:

  • datblygu gwaith ymchwil ac agenda datblygu iechyd cyhoeddus newydd
  • gweithio gydag academia i ddatblygu capasiti ymchwil a darpariaeth addysgol iechyd cyhoeddus
  • llywio polisïau a chymryd camau gweithredu
  • manteisio ar dechnoleg newydd
  • gweithredu system deallusrwydd iechyd newydd
  • datblygiadau mewn economegau a metrigau iechyd
  • ymgysylltiad rhyngwladol
  • datblygu sgiliau

Erbyn 2030:

  • bydd gennym amgylchedd ymchwil a datblygu ffyniannus, a fydd yn seiliedig ar y dystiolaeth ryngwladol orau ac yn cyfrannu at y dystiolaeth honno, gan ddenu buddsoddiad amrywiol a chyflogi talent ymchwil o bob rhan o’r byd
  • byddwn yn esiampl ryngwladol ac yn adnodd cenedlaethol y gellir ymddiried ynddo o ran y defnydd o dystiolaeth a gwybodaeth i hysbysu’r broses o wneud penderfyniadau ar iechyd
  • byddwn yn arweinydd cydnabyddedig ar ddefnyddio gwybodaeth er budd iechyd y boblogaeth, drwy arweinyddiaeth ar draws y system
  • byddwn wedi dylanwadu ar bobl allweddol sy’n gwneud penderfyniadau drwy ddull sy’n seiliedig ar wybodaeth, sy’n cael effaith ar iechyd, sy’n canolbwyntio ar y dyfodol ac sy’n gynaliadwy

Camau Nesaf

Mae blaenoriaethau strategol newydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynrychioli ein datganiad o fwriad o sut yr ydym ni fel sefydliad yn ymateb i heriau a chyfleoedd iechyd y cyhoedd yr ydym yn eu hwynebu wrth adlewyrchu ein cyfraniad at y nodau saith lles.

Mae ein Cynllun Strategol yn nodi'r hyn byddwn yn ei gyflawni dros dair blynedd gyntaf ein Strategaeth Hirdymor.

Mae ein Cynllun Blynyddol, sy'n disgrifio ein gweithredoedd i gyflawni pob un o'n blaenoriaethau ac amcanion strategol, bellach wedi'i gyhoeddi ar ôl i'r Bwrdd gymeradwyo ar 31 Mai.

Cyswllt