Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd a Chynaliadwyedd

Mae’r Hwb Iechyd a Chynaliadwyedd yn cefnogi Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda’i gyfraniad tuag at nodau llesiant Cymru ac wrth gymhwyso’r egwyddor datblygu cynaliadwy (Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol), ochr yn ochr â Nodau Datblygu Cynaliadwy ehangach y Cenhedloedd Unedig, i ddod yn sefydliad cynaliadwy.

Mae’r Hwb yn gweithio’n agos gyda’r GIG ehangach, cyrff cyhoeddus eraill a sefydliadau rhanddeiliaid traws-sector ac yn eu cefnogi i sicrhau newid yn y system, a chryfhau effaith y Ddeddf ar iechyd y cyhoedd, iechyd planedol a chynaliadwyedd amgylcheddol.

Gwneud Lle i Fyd Natur

Fel corff cyhoeddus yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae hefyd yn ofynnol i Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 gynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo gwytnwch ecosystemau.  Mae angen i ni gymryd y camau hyn gan fod ein hecosystemau a'r fioamrywiaeth sy'n eu cefnogi yn dirywio.

 
Gwneud Lle i Fyd Natur yw cynllun Iechyd Cyhoeddus Cymru i gynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo gwytnwch ecosystemau.
 

Cysylltu â ni


Ebost: publichealth.sustainability@wales.nhs.uk

Ffôn: 029 2010 4472