Neidio i'r prif gynnwy

Telerau Defnyddio

Rhoddir caniatâd i ymwelwyr â/ag Iechyd Cyhoeddus Cymru (y wefan yma) gael mynediad at ddeunyddiau a gyhoeddwyd (cynnwys) yn amodol ar y telerau yma. Trwy ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i ufuddhau i'r telerau defnydd.

Er y gellir gweld, lawrlwytho a defnyddio cynnwys at ddibenion personol ac anfasnachol (e.e. ymchwil, astudiaeth neu ddefnydd mewnol preifat), ni ddylai ymwelwyr atgynhyrchu nac ail-gyhoeddi unrhyw ddeunydd o'r wefan yma heb ganiatâd perchennog y wefan / hawlfraint.

Mae delweddau, logos a graffeg a ddefnyddir ar y wefan yma'n eiddo i ni a/neu drydydd partïon. Ni ddylid defnyddio'r rhain heb sicrhau caniatâd perchennog yr hawlfraint.

Rydych yn cydnabod bod yr holl hawliau eiddo deallusol sy'n berthnasol i'r wefan yma'n perthyn i Iechyd Cyhoeddus Cymru a thrydydd partion cysylltiedig, pan fo hynny'n briodol.

Gwybodaeth Bersonol

Pan fyddwch yn cyflwyno data y gellir ei ddefnyddio i'ch adnabod ar y wefan yma o'ch gwirfodd (mae hyn yn cynnwys cyflwyno'r ffurflen adborth, holiaduron ac ati), defnyddir yr wybodaeth a gyflwynir i ymateb i'ch ymholiadau ac i'r diben y'i bwriadwyd yn unig. Nid ydym yn rhannu gwybodaeth am ddefnyddwyr gwe gyda thrydydd partion.

Amddiffyn rhag Firysau

Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunyddiau ar gyfer firysau. Argymhellir, fodd bynnag, eich bod yn rhedeg rhaglen gwrth-firws ar bob deunydd sy'n cael ei lawrlwytho o'r rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled, amhariad na niwed i'ch data na'ch system gyfrifiadur a all ddigwydd wrth i chi ddefnyddio deunydd sy'n deillio o'r wefan yma.

Ymwadiad

Cymerir gofal i sicrhau bod cynnwys y wefan yn gywir. Serch hynny, darperir cynnwys er gwybodaeth gyffredinol yn unig, ac rydych yn ei ddefnyddio ar eich menter eich hun. Ni ellir ein dal yn atebol am niwed neu golled o ganlyniad i unrhyw weithred neu anweithred sy'n deillio o ddefnyddio gwybodaeth o'r wefan yma.

Gwefannau Allanol

Nid yw Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd gwefannau cysylltiedig. Nid ydym yn derbyn unrhyw rwymedigaeth mewn perthynas â chynnwys na chanlyniadau dilyn unrhyw gyngor ar wefannau o'r fath.

Ni ddylid ystyried bod rhestriad yn arwydd o gefnogaeth o unrhyw fath.

Ni allwn warantu y bydd y dolenni yma'n gweithio drwy'r amser ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros sicrhau bod y tudalennau cysylltiedig ar gael nac os yw cyfeiriad y wefan yn newid.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cadw'r hawl i wrthod neu ddileu dolenni i unrhyw wefan.

Nodwedd Google Translate

Mae nodwedd Google Translate wedi'i galluogi ar rai o wefannau GIG (NHS) Cymru. Gwasanaeth trydydd parti nad oes gan GIG Cymru unrhyw reolaeth drosto yw hwn. Nid yw tudalennau wedi'u cyfieithu fel hyn yn rhan o'r wefan y mae'r GIG yn ei gwesteio, ac nid oes ganddynt unrhyw gyswllt â pharth (domain) y GIG. Cyfieithiad cyfrifiadurol awtomatig yw hwn, ac mae'n dueddol o gynnwys camgymeriadau na fyddent yn bresennol yn iaith siaradwr Cymraeg. Dylech ddefnyddio gwasanaeth cyfieithu o'r fath fel bras ganllaw yn unig. Nid yw GIG Cymru / NHS Wales yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am gywirdeb y cyfieithiadau cyfrifiadurol hyn nac am unrhyw golled sy'n digwydd o ganlyniad i'w defnyddio.

Diwygiadau yn y Dyfodol

Bydd newidiadau dilynol i'r telerau yma i'w gweld ar y dudalen yma.