Cofiwch y Cam N.E.S.A. Ffoniwch 999 os byddwch yn gweld unrhyw un o'r arwyddion o strôc.
Mae tua 100,000 o achosion o strôc yng Nghymru, Lloegr a'r Alban bob blwyddyn. Strôc yw pedwerydd achos arweiniol unigol marwolaeth yn y DU a'r achos unigol mwyaf o anabledd cymhleth.
Mae'r acronym N.E.S.A (Nam ar yr wyneb, Estyn, Siarad, Amser) yn ffordd gofiadwy o nodi arwyddion mwyaf cyffredin strôc ac mae'n pwysleisio pwysigrwydd gweithredu'n gyflym drwy ffonio 999.
Pan fydd rhywun yn cael strôc, cofiwch y cam nesa.
I roi’r cyfle gorau i rywun, gweithredwch yn gyflym.
Mae strôc yn ‘ymosodiad ar yr ymennydd’, a achosir gan darfu ar y llif gwaed i'r ymennydd. Mae'n argyfwng meddygol sy'n ei gwneud yn ofynnol cael sylw ar unwaith. Felly mae nodi arwyddion strôc a ffonio 999 am ambiwlans yn hanfodol. Po gynharaf y bydd rhywun sy'n cael strôc yn cael sylw meddygol brys, gorau yw'r cyfle y byddant yn gwella'n dda.
Dysgwch ragor am strôc ar wefan GIG 111 Cymru.
Helpwch ni i ni ledaenu'r neges am N.E.S.A drwy lawrlwytho a rhannu'r negeseuon a'r deunyddiau ar ein Padlet.