Neidio i'r prif gynnwy

Teithio Llesol

Teithio Llesol

Hyrwyddo teithio llesol a chynaliadwy i'n pobl

Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi newid y ffordd rydym yn gweithio yn sylweddol. Yn ystod y cyfyngiadau symud, mae nifer ohonom ni wedi bod yn cerdded, yn beicio neu’n redeg mwy, ac efallai wedi dechrau ymgymryd â’r gweithgareddau hyn am y tro cyntaf.

Wrth i gyfyngiadau lacio ac wrth i staff ddechrau dychwelyd i’r gweithle, mae cyfleoedd i ni i gyd fabwysiadu ffyrdd mwy iach a chynaliadwy o deithio wrth i ni gymudo ac yn ystod y diwrnod gwaith.

Fel rhan o arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd Iechyd Cyhoeddus Cymru 'Sut ydym ni yng Nghymru?' roedd 64 y cant o bobl yn ystyried bod llai o deithio sy’n arwain at lai o lygredd yn un o effeithiau hirdymor positif Coronafeirws.

Yn ogystal ag aer glanach, mae llawer o fuddion i deithio llesol:

  • Cefnogi ein hiechyd a’n llesiant meddyliol a chorfforol
  • Ychwanegu ymarfer corff yn hawdd i mewn i’n diwrnod
  • Arbed arian a lleihau dibyniaeth ar danwydd, gan weithredu ar newid hinsawdd – mae bron 40% o allyriadau carbon Iechyd Cyhoeddus Cymru (yn uniongyrchol) o ganlyniad i deithio staff!
  • Mae bod allan yn yr haul yn helpu i roi hwb i Fitamin D, sy’n cefnogi ein system imiwnedd


Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi arwyddo Siarter Teithio Llesol Caerdydd sy’n ein hymrwymo i alluogi a chefnogi staff (ac ymwelwyr) i deithio mewn ffyrdd iach a chynaliadwy. 

Ac yn rhan o’r cynllun peilot Gweithio Sut Mae’n Gweithio Orau (WHIWB), rydym yn gobeithio y byddwch yn gwneud dewisiadau iach a chynaliadwy ynglŷn â sut rydych yn teithio i’r gwaith a hefyd sut rydych yn teithio i fynd i gyfarfodydd. 

 
 

 

I gynllunio eich taith

  • Mae Cycle Streets UK yn gadael i chi ddewis rhwng y llwybrau tawelaf, cyflymaf neu fwyaf cytbwys
  •  Mae  National Cycle Network Sustrans yn eich galluogi i hidlo llwybrau yn ôl y rhanbarth, pellter ac a ydynt heb draffig.
  • Tudalen wybodaeth ‘Beics ar y Trên' Trafnidiaeth Cymru am fynd â'ch beic ar y trên

Rydym yn gobeithio trefnu sesiynau cynnal a chadw beiciau ar gyfer staff, ond i gael gwybodaeth am hyfforddiant a thrwsio beiciau:

 

Swyddi Agored

Gwneud cais ac ymuno â ni.

Byw a gweithio yng Nghymru

Yma yng Nghymru mae gennym hunaniaeth ddiwylliannol unigryw sy'n edrych tuag allan, cefn gwlad hardd, a phrifddinas lewyrchus.

Ein Gwerthoedd

Cafodd ein gwerthoedd eu datblygu gan ein staff; gan eu bod mor greiddiol i hunaniaeth sefydliad, ni allai un neu ddau o bobl mewn ystafell gyfarfod feddwl am y rhain!

Ein Buddion

Mae gweithio i Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnig nifer o fuddion, o dalebau gofal plant i gynllun pensiwn y GIG.