Ffliw
Gall y ffliw fod yn ddifrifol iawn. Mae’n cael ei achosi gan feirws, sy’n cael ei ledaenu gan beswch a thisian. Gall symptomau ffliw fod yn ysgafn ond gall hefyd arwain at afiechydon mwy difrifol fel broncitis a niwmonia (heintiau ar yr ysgyfaint), a all fod angen triniaeth yn yr ysbyty.
Mae ffliw yn heintus iawn, a gall symptomau ymddangos yn gyflym iawn. Mae symptomau ffliw yn cynnwys tymheredd uchel, blinder a gwendid, cur pen, poenau a pheswch.
Mae achosion o ffliw y rhan fwyaf o aeafau, yn enwedig mewn ysbytai a chartrefi gofal. Mewn gaeaf arferol, bydd miloedd o bobl yn marw o salwch sy’n gysylltiedig â ffliw yn y DU. Cael brechlyn ffliw bob blwyddyn yw un o’r ffyrdd gorau o amddiffyn rhag y ffliw.
Pan fydd pobl yn cael y ffliw, maent yn tueddu i fynd yn sâl yn eithaf cyflym. Gall symptomau gynnwys twymyn, oerfel, cur pen a chyhyrau poenus, yn aml gyda pheswch a dolur gwddf.
Dysgwch fwy
Os hoffech chi ddysgu mwy am y brechlynnau, neu’r afiechyd y maent yn eu hamddiffyn yn erbyn, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu.
Os oes gennych gwestiynau neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, gallwch fynd i wefan GIG 111 Cymru (safle allanol), siarad â’ch meddyg neu nyrs, neu gysylltu â GIG 111 Cymru drwy ffonio 111.
Gwybodaeth bellach
Data
-
Derbyniadau i’r ysbyty mewn achosion o heintiau anadlol acíwt (ARI)
Mae’r dangosfwrdd hwn yn dangos tueddiadau mewn derbyniadau i’r ysbyty ar gyfer heintiau anadlol acíwt…