Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Adroddiad wythnosol ar ffliw a heintiau anadlol acíwt

Manylion:

Awduron: Rhaglen Afiechydon Ataliadwy Trwy Frechu

Cyhoeddwyd ar: 28ain Hydref 2026

Mae’r adroddiad hwn yn darparu trosolwg wythnosol o weithgaredd y ffliw, RSV a COVID-19 yng Nghymru, gan gynnwys data gwyliadwriaeth, tueddiadau a chofnodion o gwmpasu brechu, gan dynnu sylw at lefelau cyfredol a newidiadau mewn heintiau anadlol.

Lefel gweithgarwch presennol Tuedd
Ffliw Lefelau isel  Cynyddu
RSV  Lefelau isel Cynyddu
COVID-19  Lefelau isel Sefydlog

Nid yw trothwyon cymharol ar gyfer dwysedd COVID-19 ar gael eto. 

Adroddiad wythnosol heintiau anadlol integredig

Y Nifer sy’n Cael eu Brechu 

Pwyntiau allweddol yng Nghymru 

Diweddariad gwyliadwriaeth gweithgarwch ffliw 

  • Y gyfradd ymgynghoriadau â meddygon teulu ar gyfer ffliw yng Nghymru yn ystod Wythnos 43, 2026, wedi’i hadrodd drwy Gynllun Gwyliadwriaeth Heintiau Meddygon Teulu Sentinel, oedd 9.9 ymgynghoriad fesul 100,000 o boblogaeth practis. 
  • Roedd hwn yn cynnydd o gymharu ag Wythnos 42 2026 (6.9 fesul 100,000). 

Diweddariad gwyliadwriaeth feirolegol 

  • Casglwyd cyfanswm o 122 sampl gwyliadwriaeth gan gleifion a oedd yn cyflwyno symptomau ILI (salwch tebyg i ffliw) gan feddygon teulu sentinal a fferyllfeydd cymunedol yn ystod Wythnos 43, 2026. O’r rhain roedd 9 achos o ffliw, 1 achos RSV a 11 achos SARS‑CoV‑2 yn yr wythnos fwyaf diweddar.
  • Yn ystod Wythnos 43, cynhaliwyd profion sgrinio anadlol amlblecs llawn ar 967 o samplau cleifion ysbyty a meddygon teulu nad ydynt yn sentinel gan Ficrobioleg Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac o’r rhain, 58 yn bositif ar gyfer y ffliw. Nodwyd nifer o achosion eraill o heintiau anadlol acíwt (gweler yr adroddiad llawn). Fel arfer, blaenoriaethir y profion hyn ar gyfer cleifion symptomatig mewn ysbytai, neu’n llai cyffredin, mewn lleoliadau cymunedol. 

Derbyniadau i’r ysbyty mewn achosion a gadarnhawyd o ffliw ac RSV 

Yn y DU ac Ewrop

I weld adroddiadau gwyliadwriaeth o wledydd eraill y DU, gweler y dolenni isod: 

Trosolwg byd-eang 

Gellir gweld diweddariadau byd-eang ar weithgarwch ffliw (Saesneg yn unig).

Data sydd ar gael i’w lawrlwytho

Archif adroddiadau

Adroddiadau perthnasol

Ni chanfuwyd adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig