Neidio i'r prif gynnwy

Cyfamod y Lluoedd Arfog

Cyfamod y Lluoedd Arfog

Beth yw Cyfamod y Lluoedd Arfog?

Mae’r Cyfamod yn addewid gwirfoddol gan sefydliadau unigol sydd yn dymuno arddangos eu cefnogaeth i’r Lluoedd Arfog.  Mae’r addewid yn cael ei wneud i aelodau o’r lluoedd arfog sy’n gwasanaethu, milwyr wrth gefn a chyn-filwyr ac mae’n cynnwys mynediad i wasanaethau a chyflogaeth.

Fe wnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru arwyddo'r cyfamod ar 25 Mai 2017, derbynion nhw Gynllun Cydnabyddiaeth Cyflogwr Amddiffyn Lefel Efydd ym mis Mehefin 2018 ac maent yn gweithio tuag at gyflawni’r Lefel Arian.

Mae rhagor o wybodaeth am y Cyfamod ar gael ar Wefan Cyfamod y Lluoedd Arfog.

 

Milwyr wrth gefn – gweithio i Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu ceisiadau gan filwyr wrth gefn sy’n gwasanaethu, gan gydnabod a gwerthfawrogi’r profiad ychwanegol a sgiliau trosglwyddadwy y maent yn eu datblygu trwy eu hyfforddiant yn y lluoedd arfog a’u gyrfa filwrol, megis gwaith tîm, datrys problemau, arweinyddiaeth, ymrwymiad, penderfynolrwydd a hunan hyder.

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru amrywiaeth o gyfleoedd gyrfaol yn amrywio o rolau gweinyddol/rheoli prosiectau, i rolau cyllid, meicrobioleg a hyrwyddo iechyd. Er mwyn gweld pa gyfleoedd sydd ar gael, edrychwch ar ein swyddi gwag presennol.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi arwyddo Cyfamod y Lluoedd Arfog, derbynion nhw Gynllun Cydnabyddiaeth Cyflogwr Amddiffyn Lefel Efydd ym mis Mehefin 2018 ac maent yn gweithio tuag at gyflawni’r Lefel Arian.

Mae hyd at 10 niwrnod ychwanegol o absenoldeb â thâl ar gael i’ch cynorthwyo chi i gyflawni unrhyw ofynion hyfforddiant sydd eu hangen ar eich rol wrth gefn.  Efallai y bydd dewisiadau gweithio hyblyg hefyd ar gael.

Cyn-filwyr – gweithio i Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu ceisiadau gan rai sydd wedi gadael y gwasanaeth. Mae’r rhai sydd wedi gadael y gwasanaeth, trwy eu gyrfa a hyfforddiant milwrol, wedi cael y profiad o weithio mewn amrywiaeth o wahanol yrfaoedd o fewn y gwasanaethau, gan gynnwys hyfforddwyr, gweinyddwyr, rheolwyr TG, nyrsys, rheolwyr gweithrediadau, rheolwyr cyfleusterau, rheolwyr prosiect ac arbenigwyr cyfathrebu i enwi rhai yn unig. Maen nhw hefyd yn fentrus wrth ddatblygu manteision gwaith tim a gweithio mewn sefyllfaoedd heriol a chymhleth.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi arwyddo Cyfamod y Lluoedd Arfog, derbynion nhw Gynllun Cydnabyddiaeth Cyflogwr Amddiffyn Lefel Efydd ym mis Mehefin 2018 ac maent yn gweithio tuag at gyflawni’r Lefel Arian.

Os oes diddordeb gennych yn y dewisiadau gyrfa gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r manteision y gall hyn eu rhoi i chi a’ch sefydliad, edrychwch ar ein swyddi gwag presennol.

Y Rhaglen Step into Health

Crëwyd y Rhaglen Step into Health oherwydd bod y GIG yn cydnabod y sgiliau trosglwyddadwy a'r gwerthoedd diwylliannol y mae personél y Lluoedd Arfog yn eu datblygu wrth wasanaethu, a sut maent yn gydnaws â'r rhai sy'n ofynnol o fewn rolau'r GIG.
 
Wedi'i ddatblygu ar y cyd â The Royal Foundationa Walking With The Wounded, mae Step into Health  yn darparu llwybr penodol i gymuned y Lluoedd Arfog gael mynediad at y nifer o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael yn y GIG.
 
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar wefan Step into Health (Saesneg yn unig)