Uned Gwybodaeth ac Arolygiaeth Canser Cymru (WCISU) yw Cofrestrfa Genedlaethol Canser Cymru a’i phrif rôl yw cofnodi, cadw ac adrodd ar fynychder canser ar gyfer y boblogaeth sy’n preswylio yng Nghymru ble bynnag y cânt eu trin.
Yr ystadegau swyddogol diweddaraf o fynychder canser yng Nghymru ar gyfer blynyddoedd 2001 i 2017, yn ôl math o ganser, rhyw, oed yn ystod diagnosis, cam adeg diagnosis ac anfantais ardal.
Yr ystadegau swyddogol diweddaraf sydd ar gael ar oroesi canser yng Nghymru ar gyfer y blynyddoedd 1995 i 2016, yn ôl y math o ganser, rhyw, bwrdd iechyd, cam adeg diagnosis a chwintel amddifadedd.