Neidio i'r prif gynnwy

Macmillan-partneriaeth UGGCC

Ffurfiodd Cymorth Canser Macmillan ac Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru (UGGCC) Iechyd Cyhoeddus Cymru bartneriaeth yn Ebrill 2017. Y nod yw rhoi dadansoddiad craff o ddata canser i gefnogi dyluniad a phrofion gwell a gweithredu modelau gofal gwell.  Bydd yn gwneud hyn trwy ddefnyddio data i wella’r ddealltwriaeth o effaith a chostau canser a’i driniaeth ar draws llwybrau gofal iechyd sylfaenol, eilaidd a thrydyddol.  Bydd hyn o gymorth i ni nodi bylchau a chyfleoedd i gasglu data a gwybodaeth iechyd o safon fyd-eang i wella canlyniadau ar gyfer pobl sy’n byw gyda a thu hwnt i ganser.

Mae mwy o wybodaeth yn ymwneud â’r bartneriaeth ar gael yma.

Mae’r bartneriaeth yn cynnwys nifer o brosiectau:

  • Mynychder a nifer yr achosion o ganser yn ôl rhwydwaith clwstwr meddygon teulu (neu ofal sylfaenol) yng Nghymru
  • Cydforbidrwydd yn ôl rhwydwaith clwstwr meddygon teulu (neu ofal sylfaenol) yng Nghymru
  • Llwybrau i ddiagnosis o ganser yng Nghymru

I lywio gwaith y bartneriaeth ac ymchwilwyr eraill yng Nghymru, cynhyrchwyd y papur Tirwedd hwn i grynhoi’r prif setiau data a’r cyhoeddiadau mewn perthynas â data canser yng Nghymru. 

Tirwedd Data Canser yng Nghymru, 2019

 

Mynychder canser (nifer yr achosion newydd) a chyfrifiad canser (pobl yn byw ar ôl ddiagnosis o ganser) ar gyfer Rhwydweithiau Clwstwr yng Nghymru

Ar 12 Gorffennaf 2018, fe wnaethom gyhoeddi ein hystadegau mynychder a chyfrifiad o ganser ar gyfer Rhwydweithiau Clwstwr Meddygon Teulu (gofal sylfaenol) yng Nghymru ar gyfer diagnosis hyd at 2015. 

Dyma’r tro cyntaf yr ydym wedi cyhoeddi’r ystadegau hyn ar lefel Rhwydwaith Clwstwr ar gyfer sawl math o ganser.  Caiff y data ei ddadansoddi yn ôl band oedran, amddifadedd oed, natur wledig, rhyw a chyfnod y canser yn ystod diagnosis. Caiff y wybodaeth ei harddangos ar ddangosfwrdd rhyngweithiol. 

 

Cleifion canser yng Nghymru gyda chyflyrau iechyd hir dymor eraill: Mynychder a chyfrifiad o achosion yn ôl Rhwydwaith Clwstwr Meddygon Teulu, a goroesi Cymru gyfan

Ar 27 Mawrth 2019, cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf oedd ar gael ar gyfer nifer yr achosion a chyfrifiad canser yn ôl grŵp cydforbidrwydd (sgôr Charlson) ar gyfer y Rhwydweithiau Clwstwr ymarfer cyffredinol (gofal sylfaenol) yng Nghymru ar gyfer diagnosis hyd at 2015. Dyma’r tro cyntaf rydym wedi cyhoeddi’r ystadegau hyn yn ôl grŵp ar gyfer nifer o fathau o ganser.  Mae’r data wedi ei rannu yn ôl band oed, amddifadedd ardal, gwledigrwydd a rhyw (a hefyd cyfnod y canser yn ystod diagnosis ar gyfer mynychder). Mae goroesi net am flwyddyn yn ôl grŵp cydforbidrwydd hefyd wedi cael ei gyfrifo ar lefel Cymru gyfan. Caiff y wybodaeth ei dangos mewn dangosfwrdd rhyngweithiol.