Neidio i'r prif gynnwy

Offeryn Adrodd Canser - Ystadegau Swyddogol

Wedi'i ddiweddaru 26 Ebrill 2024

 

Mae gwall wedi’i nodi wrth gyfrifo cyfraddau yn y dadansoddiad amddifadedd ar gyfer y datganiadau ystadegau swyddogol a ganlyn:

  • Digwyddedd canser yng Nghymru, 2002-2020
  • Marwolaethau oherwydd canser yng Nghymru, 2002-2022

Digwyddodd y gwall oherwydd bod y parth anghywir wedi cael ei ddefnyddio i aseinio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD) i'r enwadur (amcangyfrif o’r boblogaeth ganol y flwyddyn). Nid yw'r gwall yn effeithio ar y rhifiadur (nifer y digwyddiadau). Nid ydym yn disgwyl newidiadau sylweddol ar lefel Cymru. Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra. Gweler y datganiad o gywiriadau isod am fwy o wybodaeth.

 

Cliciwch yma i weld yr Offeryn Adrodd ar Ganser

Mae'r offeryn adrodd ar ganser newydd yn cadw Ystadegau Swyddogol ar mynychder o ganser, marwolaethau, a goroesiad yng Nghymru ar gyfer y blynyddoedd 2002 ymlaen. Mae’n ddangosfwrdd rhyngweithiol sy’n eich galluogi i archwilio’r data mewn gwahanol ffyrdd megis, er enghraifft: dadansoddiad cyfres amser, proffiliau ardal ddaearyddol, cam adeg diagnosis, amddifadedd ardal, cymariaethau â gwledydd eraill y DU ac effaith y pandemig COVID-19. Mae’r offeryn hefyd yn cynnwys ystadegau arbrofol newydd sy’n dangos samplau patholeg canser misol hyd at 2023, sy’n caniatáu cipolwg cyflymach ac amserol ar fynychder canser yng Nghymru.

Cliciwch yma i weld prif negeseuon y datganiad marwolaethau diweddaraf

Marwolaethau oherwydd pob canser ar gyfer y blynyddoedd cofrestru marwolaethau 2002-2022.  Gellir archwilio'r Ystadegau Swyddogol goroesi newydd yn yr Offeryn Adrodd ar Ganser a'u canfod yn y tablau data goroesi.

Gwybodaeth Ategol

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i'r Offeryn Adrodd ar Ganser.

Mae hwn yn cael ei redeg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rydym am i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:

  • chwyddo’r cynnwys hyd at 200% heb i'r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver).

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.  Os oes gennych anabledd, mae gan AbilityNet gyngor ar sut i wneud eich teclyn yn haws ei ddefnyddio.
Caiff hygyrchedd ar y wefan hon ei harwain gan safonau’r llywodraeth a
Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG). Caiff WCAG eu derbyn yn eang fel y safon genedlaethol ar gyfer hygyrchedd ar y we.

Er ein bod yn anelu at sicrhau bod y wefan yn hygyrch i bob defnyddiwr ac at gyflawni lefel gydymffurfio WCAG ‘AA’, rydym yn gweithio’n barhaus â rhanddeiliaid i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â lefel gydymffurfio ‘A’ fel isafswm.

Mae'r nodweddion cyfieithu a thestun-i-lais Recite Me ar y wefan hon yn awtomataidd. Efallai y bydd gwallau ac anghysondebau yn y cyfieithiadau. Y testun swyddogol yw fersiwn Saesneg/Cymraeg y wefan. Os byddwch yn cael unrhyw broblemau hygyrchedd ar y safle hwn, neu os bydd gennych unrhyw sylwadau, cysylltwch â ni.

 

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon
Fersiwn 1, cyhoeddwyd 22/06/2023
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch.

  • Efallai na fydd rhannau o’r tudalennau yn gweithio’n dda gyda Thechnolegau Cynorthwyol fel rhaglenni darllen sgrin
  • Nid yw rhai dewislenni yn gwbl hygyrch
  • Nid oes gan rai botymau a dolenni ddisgrifiadau hygyrch
  • Nid oes modd defnyddio rhai tudalennau’n llawn gyda’r bysellfwrdd
  • Nid yw rhai tudalennau wedi’u trefnu mewn modd rhesymegol o ran ffocws
  • Mae eitemau eilaidd y ddewislen yn newid trefn pan ddewisir eitem

     Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei deall, recordiad sain neu braille, cysylltwch â ni yn gyntaf a byddwn yn trosglwyddo eich cais i'r tîm perthnasol.  Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi ymhen 10 diwrnod gwaith.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd ar y wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni.

Gweithdrefn orfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, yn sgil yr hyn nad yw’n cydymffurfio â nhw sydd wedi’u rhestru isod.

Cynnwys nad yw'n hygyrch
Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

 

Methu â chydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd
Fersiwn 1, cyhoeddwyd 22/05/2023
Er ein bod yn ymdrechu i gwrdd â 'WCAG 2.1 AA' mae gennym y materion canlynol nad ydynt yn cydymffurfio ar hyn o bryd:

1.1.1 Darparu dewisiadau testun amgen ar gyfer cynnwys nad yw'n destun

1.3.1      Hygyrch? Strwythur rhesymegol

1.3.4      Gellir arddangos cynnwys mewn cyfeiriadedd portread a thirwedd

1.3.5      Rhaid gallu pennu pob maes mewnbwn yn y rhaglen. Er enghraifft, dylai defnyddiwr allu llenwi mewnbynnau yn awtomatig

1.4.5   Peidiwch â defnyddio delweddau o destun

1.4.10    Rhaid i ddefnyddiwr allu pori drwy wefan gan ddefnyddio sgrin 320 picsel o led heb orfod sgrolio'n llorweddol (Mae rhai eithriadau)

2.1.1     Yn hygyrch trwy fysellfwrdd yn unig

2.4.1      Darparu dolen 'Neidio i'r Cynnwys'

2.4.5   Cynnig sawl ffordd o ddod o hyd i dudalennau

2.5.2   Wrth ddefnyddio digwyddiadau pwyntydd sengl, dylai un o'r canlynol fod yn wir, Dim Digwyddiad i Lawr, Atal neu Ddadwneud, Gwrthdroi i Fyny, Hanfodol

 

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ym mis Mehefin 2023. Caiff ei adolygu ym mis Mehefin 2024.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ym mis Mawrth 2023. Cynhaliwyd y prawf gan Empyrean Digital.

Dr Tracey Cooper, Cadeirydd Bwrdd Canser GIG Cymru a Prif Weithredydd Iechyd Cyhoeddus Cymru

Yr Athro Tom Crosby, Cyfarwyddwr Clinigol Canser Cenedlaethol Cymru

Anthony Davies, Uwch Reolwr Polisi, Tîm Polisi Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth, Llywodraeth Cymru

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein cynhyrchion i sicrhau eu bod yn hawdd eu defnyddio. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu adborth ar y cyhoeddiad hwn, cysylltwch â ni drwy e-bostio wcu.stats@wales.nhs.uk

 

Ystadegydd cyfrifol: Leon May

E-bost: wcu.stats@wales.nhs.uk

Ffôn: +44 (0)29 2037 3500