Neidio i'r prif gynnwy

Amdanom Ni

Uned Gwybodaeth ac Arolygiaeth Canser Cymru (WCISU) yw Cofrestrfa Genedlaethol Canser Cymru a’i phrif rôl yw cofnodi, cadw ac adrodd ar fynychder canser ar gyfer y boblogaeth sy’n preswylio yng Nghymru ble bynnag y cânt eu trin. Dechreuwyd gofrestru canser yng Nghymru bron bum degawd yn ôl ac mae’r gronfa ddata electronig heddiw, sy’n cadw cofnodion sy’n deillio’n ôl i 1972, yn cynnwys tua 686,000 o gofnodion.

Nid yw data lle mae cleifion yn hysbys byth yn cael ei ryddhau o’r gofrestrfa heb gymeradwyaeth foesegol briodol ac ni fydd y gofrestrfa byth yn cysylltu â chelfion unigol na’u perthnasau.

Mae gwybodaeth i gleifion ar gael o'r daflen canlynol: Ynglŷn â Chofrestru Canser: Taflen ar gyfer cleifion

Mae WCISU yn aelod llawn o Gymdeithas Cofrestrfeydd Canser y Deyrnas Unedig ac Iwerddon (UKIACR) sydd yn cydweithio i sicrhau bod safonau Cenedlaethol a Rhyngwladol ar gyfer cofrestru canser yn cael eu cynnal.

Mae WCISU yn gallu darparu gwybodaeth amserol, o ansawdd uchel am fynychder canser, goroesi a marwolaethau.
 

Ein Nodau

Casglu, dadansoddi a chadw data cywir, amserol a chynhwysfawr am ganser.

Cynnal cyfrinachedd cleifion.

Darparu gwybodaeth am fynychder canser, goroesi a marwolaethau dros amser.

Monitro tueddiadau canser.

Cyfrannu at bwysigrwydd prosiectau a rhaglenni ymchwil ar draws y DU ac yn rhyngwladol.

Darparu gwybodaeth briodol am ganser ar gyfer ymholiadau untro.

Cyhoeddi adroddiadau a phapurau gwyddonol yn ymwneud â chanser

Hwyluso cynllunio gwasanaethau canser ar gyfer ataliaeth, diagnosis, gwellhad a gofal.

Adolygu gweithgareddau a rhaglenni’r Gofrestrfa yn rheolaidd er mwyn sicrhau darparu data o ansawdd uchel ar ganser.
 

Manylion Cyswllt

Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru
Llawr 5
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Rhif 2 Capital Quarter
Tyndall Street
Caerdydd
CF10 4BZ

Ffôn: 02920 104278