Neidio i'r prif gynnwy

Edrychwch ar ein gwefan BETA newydd a rhannwch eich barn gyda ni.

Clefydau trosglwyddadwy mewn carchardai yng Nghymru

Twbercwlosis (TB) mewn carchardai yng Nghymru

Mae Adroddiad Blynyddol Twbercwlosis yng Nghymru 2019 Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod achosion o TB yng Nghymru wedi gostwng i lai na 100. Er bod cyfanswm yr achosion yng Nghymru wedi lleihau, mae canran yr achosion a aned yn y DU wedi cynyddu. Daw'r achosion hyn yn aml o boblogaethau sy'n adrodd lefelau uchel o ffactorau risg cymdeithasol, megis bod yn ddigartref neu yn y carchar neu ddefnyddio cyffuriau.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cefnogi'r gwaith o reoli achosion unigol o TB mewn carchardai yng Nghymru, yn ogystal ag achosion diweddar o TB yn un o'r carchardai yng Nghymru.

 

Sgrinio peilot ar gyfer haint TB cudd

Yn 2016, cafodd Iechyd Cyhoeddus Cymru arian gan Lywodraeth Cymru i gynnal rhaglen beilot ar gyfer haint TB cudd mewn carchardai.  Nod y peilot oedd ateb y cwestiynau canlynol:

  • Pa mor gyffredin yw dynion mewn carchardai â haint TB cudd?
  • Pa mor dderbyniol yw'r prawf sgrinio IGRA i ddynion mewn carchardai?
  • Beth yw'r effaith ar wasanaethau gofal iechyd, labordai a gwasanaethau arbenigol mewn carchardai wrth ddarparu sgrinio ar gyfer haint TB cudd i boblogaeth mewn carchardai?
  • A yw'r sawl sydd â chanlyniadau positif ar gyfer haint TB cudd yn fodlon cael triniaeth er mwyn clirio'r haint?

Cafodd y peilot ei arwain gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar y cyd â gwasanaeth TB arbenigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a CEM Caerdydd.

Cynhaliwyd y profion rhwng mis Chwefror a mis Mawrth 2018, a chafodd dros 550 o ddynion eu profi. Cafodd y sawl y gwelwyd eu bod â chanlyniad positif ar gyfer haint TB cudd sgan pelydr-x o'r frest yn y carchar (gan y Gwasanaeth Find and Treat o Lundain) er mwyn nodi unrhyw haint actif.

Gellir gweld y papur a gyhoeddwyd ynghyd â'r canlyniadau yma:
 

COVID-19 mewn carchardai yng Nghymru 

Mae pob carchar yng Nghymru wedi profi achosion a gadarnhawyd o COVID-19 ymysg y carcharorion a'r staff. Cadarnhawyd yr achosion cyntaf ymysg y carcharorion a'r staff y naill ar 17 a'r llall ar 18 Mawrth 2020.  Mae carchardai yng Nghymru yn dilyn canllawiau Iechyd Cyhoeddus Lloegr ar COVID-19 mewn carchardai a chanolfannau cadw rhagnodedig eraill yn ogystal â pholisïau gweithredu Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi.

Ers canfod yr achosion cyntaf o'r coronafeirws newydd (SARS-CoV-2) yng Nghymru, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi wedi bod yn cydweithio i ganfod achosion posibl mewn carchardai yng Nghymru ac ymateb iddynt. Ymysg mesurau eraill, ar ddechrau'r achosion yng Nghymru sefydlwyd rhaglen o brofion rheolaidd ar gyfer pob achos posibl o SARS-CoV-2 ymysg carcharorion, ac ehangwyd y rhaglen profi yn nes ymlaen i gynnwys y staff.

Caiff achosion o COVID-19 mewn carchardai yng Nghymru eu rheoli gan dimau rheoli digwyddiadau.  Sefydlwyd Tîm Rheoli Achosion mewn Carchardai Cymru Gyfan ym mis Ebrill 2020, a oedd yn cyfarfod bob wythnos i ddechrau, a phob pythefnos bellach, i oruchwylio materion yn ymwneud â COVID-19 mewn carchardai yng Nghymru. Mae'r aelodau yn cynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru, Llywodraethwyr Carchardai ac Awdurdodau Lleol.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi adroddiadau misol ar COVID-19 mewn carchardai yng Nghymru: