Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Rhywiol mewn Carchardai yng Nghymru

Yn 2016, comisiynodd Llywodraeth Cymru ‘Adolygiad o Iechyd Rhywiol yng Nghymru’ a dynnodd sylw at y ffaith nad oedd anghenion iechyd rhywiol pobl yn y carchar yn hysbys, gan gydnabod ar yr un pryd fod yr unigolion hyn yn agored i niwed o bosibl.

Yn dilyn hyn, comisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiad o wasanaethau iechyd rhywiol carchardai. Canfu'r adolygiad hwn fod gan bob carchar wasanaethau iechyd rhywiol, ond eu bod yn wahanol o ran y ffordd yr oeddent yn cael eu darparu.

Yn dilyn y gwaith hwn, cynhaliwyd y gweithdy iechyd rhywiol cyntaf gyda'r nod o ddwyn clinigwyr allweddol a oedd yn gweithio yn y gwasanaethau iechyd rhywiol mewn carchardai at ei gilydd.  Y cyfarfod hwn oedd y cyntaf o'i fath ac roedd yn cynnwys cyflwyniadau gan glinigwyr o fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro.

 

Cynllun peilot hunanbrofi am Glamydia a Gonorea

Mae ymdrechion yn cael eu gwneud i gynyddu'r niferoedd sy'n cael eu profi am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol mewn carchardai yng Nghymru. Cynhaliwyd cynllun peilot hunanbrofi am glamydia a gonorea ar dri o'n safleoedd carchar: CEM Abertawe, CEM Brynbuga a CEM Prescoed. Mae'r gwaith hwn yn cynnwys addasu cynllun profi a phostio “Cymru Chwareus” i'w ddefnyddio mewn carchardai. Nid oes gan bobl yn y carchar lawer o fynediad i'r rhyngrwyd, os o gwbl, felly roedd y cynllun peilot hwn yn cynnwys creu fersiwn analog o'r llwyfan, ond gan alluogi pobl i gael gafael ar brofion o hyd mewn ffordd gyflym sy’n achosi cyn lleied o anghyfleustra â phosibl. Mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo.
 

Dolenni Defnyddiol:

 

Sgrinio siffilis drwy brofion smotiau gwaed sych (DBST)

Mae Sgrinio drwy brofion Smotiau Gwaed Sych yn ddull o brofi am heintiau drwy ddefnyddio pigiad bys i gasglu gwaed, yn hytrach na samplau gwaed gwythiennol. Mae'r dull hwn wedi cael ei ddefnyddio mewn carchardai am ei fod yn creu llai o archoll i'r claf. Cafodd y prawf ei ddefnyddio'n flaenorol i brofi am HIV, Hepatitis B a Hepatitis C fel rhan o gynllun profion optio allan ar gyfer carchardai yng Nghymru. Yn dilyn yr adolygiad o wasanaethau iechyd rhywiol cafodd y prawf ei ymestyn i gynnwys Siffilis. Mae hyn yn golygu bod mwy o bobl yn gallu cael gafael ar brofion am Siffilis mewn carchardai fel rhan o'r cynllun optio allan.

 

Ceir rhagor o wybodaeth am iechyd rhywiol yng Nghymru yma.