Mae'r Pwyllgor hwn yn cynghori'r Bwrdd am ansawdd ac effaith ein gwybodaeth, gwybodaeth iechyd a gweithgareddau ymchwil a hefyd ansawdd data a threfniadau llywodraethu gwybodaeth yn y sefydliad.
Gallwch weld / lawrlwytho'r Cylch Gorchwyl ac Aelodaeth ar gyfer y Pwyllgor Gwybodaeth, Ymchwil a Hysbysrwydd yma.
Gellir gweld / lawrlwytho'r papurau o gyfarfodydd a gynhaliwyd cyn atal y Pwyllgor oherwydd pandemig Covid-19 o'r ddolen hon i'r Pwyllgor Gwybodaeth, Ymchwil a Hysbysrwydd.
Mae'r Pwyllgor yn cyfarfod bob chwarter ac, fel arall, fel y mae Cadeirydd y Pwyllgor yn ei ystyried yn angenrheidiol. Nodir dyddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Gwybodaeth, Ymchwil a Hysbysrwydd isod.
Pwy yw pwy
Aelodau (Lleiafswm o dri) |
|
Cadeirydd a Cyfarwyddwr Anweithredol |
Sian Griffiths |
Cyfarwyddwyr Anweithredol |
Nick Elliott Diane Crone |
Yn bresennol (Drwy wahoddiad, yn ôl yr angen, ond fel arfer mae'n cynnwys yr isod) |
|
Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gwybodaeth Iechyd Cyhoeddus ac Ymchwil |
Iain Bell |
Cyfarwyddwr Gweithredol Polisi ac Iechyd Rhyngwladol / Cyfarwyddwr Canolfan Gydweithredu Sefydliad Iechyd y Byd |
|
Cyfarwyddwr Gweithredol Ansawdd, Nyrsio a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd |
Rhiannon Beaumont-Wood |
Cyfarwyddwr Cenedlaethol Diogelu Iechyd a Gwasanaethau Sgrinio, a Chyfarwyddwr Meddygol |
Fu-Meng Khaw |
Cyfarwyddwr Gwella Ansawdd a Diogelwch Cleifion y GIG a Chyfarwyddwr Gwelliant Cymru |
John Boulton |
Cyfarwyddwr Gwybodaeth Iechyd |
I'w gadarnhau |
Pennaeth Ymchwil a Datblygu |
Alisha Davies |
Prif Swyddog Risg |
John Lawson |
Ysgrifennydd y Bwrdd (neu eu henwebai) |
Liz Blayney |
Cynrychiolydd o'r Fforwm Partneriaeth Staff |
Rob Bailey |