Mae Cymru yn dilyn cyngor y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) o ran pwy sy’n gymwys i gael brechiadau COVID-19. Mae’r cyngor hwn yn seiliedig ar dystiolaeth ynghylch pwy sydd fwyaf mewn perygl o salwch difrifol a marwolaeth o COVID-19.
Cynnwys
Mae'r bobl sydd fwyaf mewn perygl o fod yn ddifrifol wael oherwydd COVID-19 yn gymwys i gael brechiad COVID-19 y gwanwyn hwn.
Gall cael eich brechu rhag COVID-19 helpu i leihau marwolaethau a salwch difrifol y mae posib eu hatal. Gwarchodwch eich hun a'ch gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Bydd y bobl sy'n wynebu'r risg fwyaf o salwch difrifol o haint COVID-19 yn cael cynnig brechiad rhwng mis Ebrill a mis Mehefin. Rydym yn argymell eich bod yn cael eich brechiad cyn gynted ag y caiff ei gynnig i chi.
Bydd y cynnig yma o ddos y gwanwyn yn dod i ben ar 30 Mehefin 2024.
Mae'r JCVI wedi dweud y dylid cynnig brechiad y gwanwyn COVID-19 i:
pobl 75 oed a hŷn
preswylwyr mewn cartrefi gofal i bobl hŷn, a
pawb chwe mis oed a hŷn sydd â system imiwnedd wan.
Fel rhai brechiadau eraill, gall lefelau’r warchodaeth ddechrau lleihau dros amser. Bydd dos y gwanwyn yn helpu i'ch gwarchod chi am gyfnod hirach.
Bydd hefyd yn helpu i leihau'r risg y bydd angen i chi fynd i'r ysbyty oherwydd haint COVID-19.
Os ydych chi’n gymwys i gael dos y gwanwyn bydd yn cael ei gynnig rhwng mis Ebrill a mis Mehefin, tua chwe mis (ac nid cyn tri mis) ar ôl eich dos diwethaf o'r brechiad. Os byddwch yn troi’n 75 oed rhwng mis Ebrill a mis Mehefin byddwch yn cael eich galw am eich brechiad yn ystod y rhaglen – nid oes angen i chi aros am eich pen-blwydd.
Bydd y GIG yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi pryd a ble i gael y brechiad. Mae’n bwysig mynd i’r apwyntiad pan gewch wahoddiad.
Os na allwch fynd i’r apwyntiad, rhowch wybod i'r tîm archebu fel eu bod yn gallu rhoi eich apwyntiad i rywun arall. Mae manylion cyswllt y tîm ar y llythyr apwyntiad.
Yng Nghymru, cynigiwyd cwrs cynradd (dau ddos fel rheol) ac un dos atgyfnerthu o'r brechiad i bob oedolyn 18 oed a hŷn. Mae’r cynnig o gwrs cynradd dau ddos cychwynnol a dos atgyfnerthu i bawb wedi dod i ben bellach.
Daeth y cynnig cwrs cynradd cyffredinol dau ddos i ben ar 30 Mehefin 2023. O’r dyddiad hwn, dim ond y rhai sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer brechiad COVID-19 sy’n parhau i fod yn gymwys ar gyfer cwrs cynradd.
Mae'r cwrs cynradd bellach yn cynnwys un dos o frechiad COVID-19. Os oes gennych chi system imiwnedd wan, efallai y bydd angen i chi gael mwy nag un dos. Siaradwch â'ch meddyg teulu neu nyrs y feddygfa, a fydd yn gallu trafod nifer y dosau i'w cael gyda chi.
Nid yw brechiadau Covid-19 yn cael eu cynnig at ddibenion teithio bellach.
Mae cyngor am deithio tramor ar gael yn Foreign travel advice - GOV.UK (www.gov.uk) (safle allanol)
Bydd plant chwe mis oed a hŷn sydd â’r risg uchaf o salwch difrifol o COVID-19 yn cael cynnig y brechiad.
Am fwy o wybodaeth, ewch i:
Green Book COVID-19: the green book, chapter 14a - GOV.UK (www.gov.uk) (safle allanol)
Rhaglen frechu Covid-19 (LLYW.CYMRU) (safle allanol)
Mae’n bosibl na fydd pobl sydd ag imiwnoddiffygiant difrifol (sydd â system imiwnedd wan iawn oherwydd cyflwr iechyd neu driniaeth feddygol) neu sy’n ei ddatblygu yn ymateb yn dda o ran imiwnedd i frechiad COVID-19.
Dylid ystyried dos ychwanegol o’r brechiad:
Os nad ydych chi wedi cael unrhyw frechiad COVID-19 blaenorol neu wedi datblygu imiwnoddiffygiant difrifol yn ddiweddar, dylech gael eich ystyried ar gyfer eich dos cyntaf o'r brechiad, heb ystyried yr amser o'r flwyddyn.
Os ydych chi wedi cael brechiad COVID-19 yn flaenorol ac wedi datblygu imiwnoddiffygiant difrifol, dylech gael eich ystyried ar gyfer dos ychwanegol o frechiad COVID-19, dri mis ar ôl eich dos diwethaf, heb ystyried yr amser o'r flwyddyn.
Nod y dos ychwanegol yw cynyddu eich lefelau o warchodaeth tan yr ymgyrch dymhorol nesaf. Mae'n bosibl y bydd pobl sydd ag imiwnoddiffygiant difrifol yn gymwys i gael brechiadau atgyfnerthu tymhorol pellach yn unol â chyngor y JCVI.
Am fwy o wybodaeth, ewch i:
green book, chapter 14a - GOV.UK (www.gov.uk) (safle allanol)
Rhaglen frechu Covid-19 (LLYW.CYMRU) (safle allanol)