Neidio i'r prif gynnwy

Llesiant Gweithwyr

Llesiant Gweithwyr

Mae llesiant gweithwyr yn ganolog i bopeth a wnawn fel cyflogwr ac mae’n canolbwyntio ar ein gweithwyr, eu teuluoedd a llesiant yn eu bywydau ac yn y gwaith. 

Rydym am alluogi ein gweithwyr i gael bywydau gwaith iachach ac i fwynhau'r profiad o weithio yma, ac i gynnal hynny drwy gydol eu cyflogaeth gyda ni. Byddwn yn eu galluogi i gyflawni'r gorau y gallant o ran llesiant corfforol a meddyliol ac i gyflawni eu potensial yn y gwaith. 

Rydym yn cydnabod nad yw pawb yr un fath a hefyd bod gan bobl anghenion gwahanol ar wahanol adegau o'u bywydau gwaith. 
 

Beth ydyn ni'n ei wneud ar gyfer llesiant gweithwyr?

Rydym wedi sefydlu mecanweithiau sy'n caniatáu i uwch arweinwyr, cydweithwyr Undebau Llafur, aelodau o'n swyddogaethau galluogi a chynrychiolwyr o'n rhwydweithiau staff gydweithredu'n llawn ar ein nodau sefydliadol ar gyfer llesiant gweithwyr ac ymgysylltu â gweithwyr.  Mae hyn wedi ein galluogi i sicrhau dull cydgysylltiedig ac integredig ar draws y sefydliad i gefnogi ein nod o sicrhau llesiant da i'r holl staff. 

Rydym yn cynnal arolygon staff rheolaidd, a gweithgareddau ymgysylltu eraill, i sicrhau ein bod yn deall yr hyn sydd ei angen ar ein pobl. Yna, rydym yn datblygu cynlluniau gweithredu yn seiliedig ar yr hyn y mae ein staff yn ei ddweud wrthym.  

Mae mynediad at ystod o adnoddau llesiant cefnogol, gan gynnwys ein darparwr Rhaglen Gymorth i Weithwyr, Care First, ar gael i'r holl staff.  Rydym hefyd yn cyfeirio ein staff at amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau hybu iechyd drwy gydol y flwyddyn.  Fel cyflogwr, ein ffocws mwyaf yw sicrhau ein bod yn gwreiddio llesiant drwy'r sefydliad. Felly, rydym yn ceisio gwneud pethau mewn amrywiaeth o ffyrdd fel bod pob grŵp staff yn teimlo ei fod yn cael ei gefnogi ac yn gallu cael mynediad at weithgareddau.  

 

Sut alla i gyfrannu at lesiant gweithwyr?

Fel llawer o gyflogwyr eraill, rydym yn gwybod bod angen i ni gefnogi a hyrwyddo llesiant meddyliol yn weithredol, felly rydym yn cynnig datblygiad parhaus i reolwyr a gweithwyr yn y pwnc hwn. Mae'r cyrsiau yn cynnwys: 

  • Dosbarth Meistr Iechyd Meddwl – ar gyfer rheolwyr llinell  
  • Dosbarth Meistr Iechyd Meddwl – i staff  
  • Sesiynau Gofod Gofal – sesiynau grŵp yn edrych ar sut y gallwch fod yn garedig â chi eich hun  
  • Rydym hefyd yn cynnal gwiriadau Llesiant Tîm, lle mae aelodau'r tîm yn cynhyrchu camau gweithredu i gefnogi eu llesiant.   

Os hoffech chi gysylltu â ni, anfonwch e-bost at podteam@wales.nhs.uk