Neidio i'r prif gynnwy

Rhwydweithiau Amrywiaeth

Rhwydweithiau Amrywiaeth

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi datblygiad gweithlu amrywiol lle gall pawb roi o'u gorau yn y gwaith. 

Mae gennym nifer o rwydweithiau amrywiaeth staff sefydledig sy'n cwrdd yn rheolaidd ac sy’n darparu cyd-gefnogaeth werthfawr i aelodau, ynghyd â chyngor a sicrwydd, a man diogel i gwrdd â chydweithwyr sy'n wynebu problemau tebyg. 

Mae gan y rhwydweithiau gefnogaeth gan ein tîm Profiad Gweithwyr, sy'n helpu i ddarparu hyfforddiant ar amrywiaeth a chynhwysiant i gydweithwyr a rheolwyr, sy’n sicrhau bod polisïau'n cydnabod amrywiaeth lawn ein gweithlu ac sy’n gweithio gyda'n tîm Cyfathrebu i godi ymwybyddiaeth o faterion pwysig sy'n effeithio ar wahanol grwpiau o fewn y gweithle a thu hwnt.  

Mae ein rhwydweithiau amrywiaeth gweithlu yn rhan bwysig iawn o'n sefydliad, gan sicrhau bod anghenion a safbwyntiau eu haelodau yn cael eu hystyried wrth gynllunio a llunio ein sefydliad. Drwy gynnig her, maent yn sicrhau bod pob grŵp gwahanol o fewn ein gweithlu yn cael ei glywed a bod ei gyfraniad yn cael ei werthfawrogi. 

Mae pob rhwydwaith yn croesawu cynghreiriaid sy'n gallu cefnogi'r rhwydweithiau hefyd! 

 

Beth mae'r rhwydweithiau staff yn gwneud?

  • Cynghori ar bolisïau a gwasanaethau 
  • Darparu cyfleoedd i gymdeithasu 
  • Trefnu digwyddiadau codi ymwybyddiaeth 
  • Gweithredu fel modelau rôl 
  • Cymryd rhan mewn gweithgorau i ddylanwadu ar yr amgylchedd gwaith 

 

Beth yw'r manteision o ymuno â rhwydwaith staff?

  • Cyfle i lunio’r sefydliad ac effeithio ar newid 
  • Rhwydweithio gwerthfawr  
  • Teimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi 
  • Datblygiad Personol 
  • Cymorth gan eraill 

Gall ein staff ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein tudalen fewnrwyd rhwydweithiau amrywiaeth [mewnrwyd GIG Cymru].

Am wybodaeth gyffredinol, cysylltwch â Sara Peacock.